Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 29 Medi 2021.
Rwy'n falch o gael y cyfle i gyfrannu i’r ddadl heddiw, ac rwy’n diolch i’m cyd-Aelod Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Luke Fletcher, am godi’r mater pwysig hwn am yr angen i ddatblygu a gwella dulliau diagnostig ac ariannu cymorth er mwyn cefnogi’r degau o filoedd o bobl yng Nghymru sydd wedi’i heffeithio gan bob math o ddementia. Rwy’n dweud degau o filoedd, achos fel rŷn ni wedi clywed, yn hytrach na ffigur pendant, y gwir yw dŷn ni ddim yn siŵr o’r union nifer. Yn ôl Cymdeithas Alzheimer's Cymru, mae hanner yr 50,000 o bobl maen nhw’n meddwl sy’n byw gyda dementia yng Nghymru heb ddiagnosis. Bu farw fy nhad o glefyd Alzheimer chwe blynedd yn ôl. Roedd e’n un o’r rhai na chafodd ddiagnosis na’r cymorth meddygol nac ymarferol am gyfnod rhy hir, ac, yn wir, hyd yn oed wedi iddo gael diagnosis, bu’n rhaid i fy mam ymdopi â’r hyn mae hi’n ei ddisgrifio fel proses anodd—mor anodd, rhy anodd—o ganfod gwybodaeth a chael mynediad at gymorth clinigol ac ymarferol. Mae’r disgwyliadau o a’r gofynion ar ofalwyr di-dâl yn hyn o beth, pobl sy’n aml yn fregus ac ar ben eu tennyn yn emosiynol ac yn gorfforol, yn gwbl afresymol ac yn creu gofid, pryder a rhwystredigaeth. Mae angen sicrhau system llawer gwell o ddarparu gwasanaethau dementia a'r cymorth cywir i bobl sy’n byw gyda dementia a’r rhai sy’n gofalu amdanynt.
O wybod yr hyn aeth mam a fy nhad drwyddo, yr anawsterau y profon ni fel teulu o ran cael mynediad at wasanaethau cefnogaeth a’r asesiadau oedd eu hangen i gyrchu’r gefnogaeth honno, gallaf ddychmygu yn gwmws pa mor ofnadwy mae’r cyfnod COVID wedi effeithio ar sefyllfa sydd eisoes yn annerbyniol i lawer gormod o bobl. Mae 4,000 o bobl, yn ôl Cymdeithas Alzheimer's Cymru, yn aros am asesiad cof tyngedfennol ac allweddol sy’n agor y drws at driniaethau a chymorth. Rwy’n cefnogi galwad Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru bod angen cyllid penodol i gynyddu capasiti a sicrhau hygyrchedd cyfartal i isadeiledd diagnostig a chreu llwybr clinigol llawer gwell o ran cael mynediad at driniaethau.
Yn ystod y pandemig hefyd fe ddwysaodd y gofyn ar ofalwyr di-dâl, fel rŷn ni wedi’i glywed gan Jenny Rathbone ac eraill, ac effaith y cyfnod clo yma wedi gwaethygu symptomau dementia a’r diffyg buddsoddiad cywilyddus yn ein system gofal cymdeithasol, gan adael pobl heb y gefnogaeth oedd ei hangen arnyn nhw. Gadawyd ein cartrefi gofal, ble mae cymaint o bobl sy’n byw gyda dementia yn byw, yn agored lled y pen i’r pandemig. Mae hynny yn sgandal y bydd angen i Lywodraeth Cymru ateb amdano. Ond mae angen gweithredu nawr i geisio cynnau fflam o obaith yn y cyfnod tywyll hwn sydd wedi effeithio’n anghymesur ar bobl â dementia.