Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 29 Medi 2021.
Mae'r 18 mis diwethaf hyn wedi bod yn anhygoel o anodd i bawb, ond i neb yn fwy na phobl sy'n byw gyda dementia. Mae colli trefn arferol, newidiadau i gymorth, ansicrwydd a'r cyfyngiadau ar ymweld â chartrefi gofal wedi gwneud sefyllfa heriol hyd yn oed yn anos. Dyna pam fy mod yn falch, yr wythnos diwethaf, ar Ddiwrnod Clefyd Alzheimer y Byd, i allu lansio'r ddogfen 'Cynllun gweithredu dementia: cryfhau'r ddarpariaeth mewn ymateb i COVID-19'. Datblygwyd y ddogfen gyda'n partneriaid i ategu 'Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia', ac mae'n adlewyrchu'r blaenoriaethau a ddaeth i'r amlwg yn ystod y pandemig.
Mae nifer o'r blaenoriaethau hyn yn cyd-fynd â ffocws y ddadl heddiw, er enghraifft mynediad cyfartal a dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ymchwil a datblygu, a dysgu a datblygu. Byddwn yn adrodd ar ein cynnydd fel rhan o'n diweddariad mewn perthynas â'r cynllun gweithredu. Bydd cyd-Aelodau'n gwybod bod ein cynllun gweithredu ar ddementia wedi'i gydgynhyrchu gyda phobl sy'n byw gyda dementia, ac yn yr un modd, cafodd ein cynllun adfer ei gydgynhyrchu gydag aelodau o'n bwrdd cyflawni a throsolwg dementia, sy'n cynnwys y rhai sy'n byw gyda dementia yn ogystal â phartneriaid trydydd sector, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sy'n rhan o'r gwaith hanfodol hwn.
Mae'r cynnig sydd ger ein bron heddiw yn cydnabod y rôl hollbwysig a chwaraewyd gan ofalwyr di-dâl yn y pandemig; rwy'n cytuno'n llwyr. Mae strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer gofalwyr di-dâl a lansiwyd gan fy nghyd-Aelod, Julie Morgan, ar 23 Mawrth yn ailddatgan ein hymrwymiad i gefnogi pob gofalwr di-dâl yng Nghymru i gael bywyd ochr yn ochr â gofalu. Nid yw'r gwaith hwn erioed wedi bod yn bwysicach. Mae gwaith yn mynd rhagddo gydag aelodau o grŵp cynghori'r Gweinidog ar ofalwyr a'r grŵp ymgysylltu â gofalwyr ar ddatblygu cynllun manwl i'w gyhoeddi yr hydref hwn, a bydd siarter newydd i ofalwyr yn cyd-fynd â hyn. Sefydlwyd y gronfa cymorth i ofalwyr gennym yn ystod y pandemig. Caiff ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a'i nod yw cefnogi gofalwyr di-dâl sydd o dan bwysau ariannol, a gallaf gadarnhau, hyd yma, fod bron i 6,000 o ofalwyr di-dâl wedi cael y cymorth hwn eisoes. Rydym hefyd yn dyrannu £3 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon i ateb y cynnydd a ragwelir yn y galw am wasanaethau seibiant traddodiadol a newydd wrth i gyfyngiadau symud gael eu llacio.
Mae Luke yn iawn i bryderu'n arbennig am yr angen am ddiagnosis cywir o ddementia. Unwaith eto, rwy'n cytuno'n llwyr. Gwn o brofiad fy nheulu fy hun pa mor hanfodol yw cael diagnosis prydlon a chywir os yw teuluoedd yn mynd i gael y cymorth sydd ei angen arnynt. I mi, mae'n fater o hawl sylfaenol hefyd. Ni fyddem yn dweud wrth glaf canser fod ganddynt ganser heb ddweud wrthynt pa fath o ganser sydd ganddynt, ac yn sicr, dylai'r un peth fod yn wir i'r rhai sy'n byw gyda dementia.
Mae'r ddogfen gysylltiedig y cyfeiriais ati'n gynharach yn cadarnhau bod diagnosis amserol yn parhau i fod yn faes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu. Bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Gwella Cymru yn datblygu eu gallu i adrodd ar gyfraddau diagnosis yn fisol er mwyn cefnogi'r gwelliant sydd ei angen yn y maes hwn. Y llynedd, gwnaethom gyhoeddi cylchlythyr i fyrddau iechyd yng Nghymru yn gofyn am i asesiadau cof a gwasanaethau gofal sylfaenol gofnodi diagnosis dementia unigolyn yn erbyn codau Read y cytunwyd arnynt i'w gwneud hi'n bosibl darparu gwybodaeth gywir, a byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid eleni i ymgorffori hyn ymhellach. Mae'r codau Read hyn yn cefnogi'r broses o gofnodi gwahanol is-fathau o ddementia, gan gynnwys dementia corff Lewy.
Yn yr hydref, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ar y camau gweithredu yn y cynllun gweithredu ar ddementia. Byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth ynglŷn â pha gymorth a gynigir i deuluoedd, a mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y mae cyllid ar gael i fyrddau partneriaeth rhanbarthol a sut y caiff hwnnw ei ddefnyddio. Byddaf hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynglŷn â sut y caiff pobl eu cynorthwyo i gael mynediad at wasanaethau yn eu dewis iaith, gan fy mod yn cydnabod, i bobl sy'n agored i niwed, fod hwn yn fater sylfaenol o angen ac nid o ddewis.
Mewn ymateb i sylwadau Jane ar y cynllun gweithredu ar ddementia, a gaf fi gadarnhau mai'r bwriad bob amser oedd cael cynllun newydd, ond bod y cynllun presennol yn destun gwerthusiad? Ar hyn o bryd mae hynny'n—. Roedd ychydig ar ei hôl hi, ond mae'r gwaith maes ar fin digwydd yn awr, a bydd y gwerthusiad hwnnw'n llywio ein cynllun newydd yn y dyfodol. A hoffwn ddweud wrth Altaf Hussain hefyd, mewn perthynas â niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol, ein bod wedi ymgynghori ar hynny a byddaf yn cyhoeddi fframwaith newydd ar hynny'n fuan iawn.
I droi at ymchwil a datblygu, mae gan hynny rôl allweddol i'w chwarae yn gwella gofal dementia, a chredaf fod gennym stori dda i'w hadrodd am hynny yma yng Nghymru. Mae Prifysgol Caerdydd yn un o chwe phrifysgol yn y DU sy'n arwain ymchwil fel rhan o Sefydliad Ymchwil Dementia'r DU. Mae'r brifysgol yn arwain menter fawr sy'n ceisio helpu ymchwilwyr ym mhob cwr o'r byd i archwilio'r ffactorau risg sy'n cyfrannu at glefyd Alzheimer. Hefyd, mae cyfleoedd ariannu ar lefel prosiect eisoes ar gael drwy raglenni'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd y mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi ynddynt, ac rydym yn gweithredu dull cenedlaethol a chydweithredol yng Nghymru, gan gynnig sganiau FDG PET gyda'r nod o gynyddu diagnosis effeithiol ac amserol o ddementia. Daw hyn yn sgil cynllun peilot llwyddiannus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac o ganlyniad, mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru bellach wedi comisiynu sganiau FDG PET ar gyfer dementia yn genedlaethol.
Mae gan unrhyw un sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr hawl i ofyn am asesiad. Mae cynllun personol sy'n mynd i'r afael â'r materion sy'n bwysig i'r unigolyn yn rhan hanfodol o daith dementia unrhyw un. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein dull gweithredu ac yn dysgu o'r arferion da ledled Cymru, er enghraifft Canolfan Enfys yn Llannerch Banna, sydd wedi cael cydnabyddiaeth yng ngwobrau 2020 ac sy'n dangos pwysigrwydd hanfodol gwrando ar bobl sy'n byw gyda dementia.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi 'Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru' newydd yn ddiweddar. Mae'n hyrwyddo dull gofal integredig system gyfan, ac rydym wedi dweud yn glir y bydd angen i bob prosiect sy'n derbyn cyllid o'r gronfa gofal integredig ar gyfer y cynllun gweithredu ar ddementia gydymffurfio â'r safonau newydd. Mae hyn yn cynnwys ffrwd waith benodol sy'n canolbwyntio ar ddatblygu eitemau data ar gyfer adrodd a sicrwydd. Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud i ddatblygu'r eitemau data hyn yn hanfodol a bydd yn chwarae rhan bwysig wrth lunio gwasanaethau dementia yn y dyfodol, felly rwy'n cydnabod galwad yr Aelod am arsyllfa ddata dementia genedlaethol a'r hyn sy'n sail iddi.
Drwy'r gwaith a amlinellais a thrwy gryfhau ein cysylltiadau â'r byd academaidd, rwy'n gobeithio y gallwn gyflawni'r un canlyniadau. Yn sicr, o'm rhan i, mae hyn yn cyd-fynd yn llwyr â bwriad ein polisi presennol. Adroddir yn genedlaethol ar y data a sefydlwn ar asesiadau a chymorth dementia a bydd yn agored i'r un lefel o graffu â data ansawdd a pherfformiad arall y GIG. Gan weithio gyda'n gwasanaethau gwybodaeth a dadansoddi, cefnogir y data gweithredol hwn hefyd drwy fonitro ymchwil a thystiolaeth gyhoeddedig yn barhaus, a byddwn yn parhau i ymgysylltu'n rheolaidd â'n colegau brenhinol a chlinigwyr, sy'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o hyrwyddo'r dystiolaeth ddiweddaraf er mwyn llywio polisi. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn cydnabod, er efallai ein bod â barn ychydig yn wahanol ynglŷn â sut i gyrraedd yno, fod y ddau ohonom ar drywydd yr un amcanion.
Rwy'n gobeithio hefyd y bydd yn derbyn fy sicrwydd, fel Dirprwy Weinidog ac fel rhywun sydd hefyd wedi dadlau dros y rhai sy'n byw gyda dementia yn y Senedd hon, fy mod wedi ymrwymo i gyflawni hyn yn gyflym. Rwy'n gwbl benderfynol o wella gofal a chymorth i'r rhai sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi, Luke Fletcher, ac Aelodau eraill ar draws y Siambr, i gyflawni'r agenda hon ledled Cymru. Diolch yn fawr.