5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Dementia

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 29 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 4:48, 29 Medi 2021

'Yr Arglwydd yw fy mugail, ni bydd eisiau arnaf.'

Sioned Williams, mae'n wir am y pwysau anhygoel sydd ar bobl fel eich mam wrth ofalu am eich tad. Cofiaf ddarllen llythyr diagnosis fy nhad yn 2013 a doedd dim syniad gen i beth fyddai'r dyfodol yn ei gynnig. Ac mae hynny'n wir; roeddech chi'n hollol iawn pan oeddech chi'n sôn nad oes dim byd yn eich paratoi chi am fywyd gyda dementia. Mae angen cefnogaeth gynnar, mae angen cynyddu'r capasiti, fel y dywedoch chi, Sioned, er mwyn creu hynny.