Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 29 Medi 2021.
Fodd bynnag, heb amheuaeth, rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod y bydd arolygu pobl ynglŷn â thollffyrdd a bod yn benodol iawn am yr M4 a'r A470 fel lleoliadau posibl yn rhoi'r syniad ym meddyliau pobl fod hwn yn gam gweithredu y mae'r Llywodraeth yn ei ystyried. Gobeithio y gall y Llywodraeth gydnabod y pryder sylweddol ymhlith modurwyr a busnesau y byddai hyn wedi'i achosi. Felly, pwynt y cynnig hwn heddiw yw ein bod am ddiystyru tollffyrdd yn llwyr fel mesur i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael yn y dyfodol.
Yn ne Cymru yn arbennig, rydym yn wynebu problem ansawdd aer. Amlygodd erthygl ddiweddar gan y BBC y modd y mae Sefydliad Iechyd y Byd bellach yn credu bod effeithiau ansawdd aer gwael yn llawer gwaeth nag a feddyliwyd yn flaenorol. Felly, mae'r ddadl hon yn amserol yn yr ystyr ein bod yn cael cyfle i drafod ansawdd aer gwael, sydd ar lefel argyfyngus. Rydym wedi cyflwyno'r cynigion pellach i geisio mynd i'r afael â'r pryderon hyn.
Hoffwn gofnodi y byddwn i, a fy mhlaid, yn gwrthwynebu cyflwyno tollau fel ateb i ansawdd aer gwael ar y sail y byddant yn cael effaith ddinistriol ar weithwyr ar y cyflogau isaf, a fydd yn gorfod talu swm anghymesur o'u hincwm i ddefnyddio'r ffyrdd, a hwy yw'r rhai mwyaf tebygol o fod â cherbydau hŷn. At hynny, byddai cyflwyno tollau yn sicr o wthio gyrwyr i geisio eu hosgoi a theithio ar hyd ffyrdd llai. Byddai hyn, wrth gwrs, yn achosi cynnydd mewn traffig ac yn y pen draw yn gostwng ansawdd aer mewn mannau eraill. Gwelsom hyn gyda chreu parth cerddwyr ar Stryd y Castell yng Nghaerdydd, pryder y mae'r Prif Weinidog wedi'i fynegi ei hun yn y Siambr hon.
Mae problem yn codi wrth groesawu cerbydau trydan fel ateb pwysig i ansawdd aer gwael. Fodd bynnag, ychydig iawn o ddarpariaeth sydd gan Gymru fel gwlad o bwyntiau gwefru trydan. Mae llawer o'r rhai sy'n defnyddio cerbydau trydan ar hyn o bryd yn gallu gosod pwyntiau gwefru yn eu cartrefi, ond mae llawer o bobl yng Nghymru'n byw mewn fflatiau a thai teras, lle mae angen iddynt barcio gryn bellter o'u cartrefi a byddent yn ei chael hi'n anodd defnyddio pwyntiau gwefru trydan.
Er bod gan yr Alban 7.5 pwynt gwefru cyflym i bob 100,000 o bobl, dim ond 1.8 sydd gan Gymru. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pwyntiau gwefru trydan yn gyflymach, oherwydd bydd hynny'n sbardun allweddol i annog pobl i fuddsoddi mewn cerbydau trydan fel dewis amgen dilys yn lle cerbydau diesel a phetrol. Dywed Llywodraeth Cymru y bydd angen o leiaf 55,000 o bwyntiau gwefru sy'n hygyrch i'r cyhoedd yng Nghymru erbyn 2030 er mwyn cynnal digon o gerbydau trydan. Mae gwir angen inni wybod, heb wleidyddoli'r mater, a yw'r targed hwn yn debygol o gael ei gyflawni, oherwydd mae prinder pwyntiau gwefru yn prysur ddod yn ffactor sy'n cyfyngu ar berchnogaeth cerbydau trydan.
Credaf mai un o'r ffyrdd gorau posibl o fynd i'r afael â'n hansawdd aer gwael yw drwy ddefnyddio mesurau arloesol yn well. Fel y gŵyr y Dirprwy Weinidog yn barod, rwyf eisoes wedi ysgrifennu at y pwyllgor newid hinsawdd yn mynegi fy mhryder nad yw'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn ddigon parod i ddefnyddio dulliau arloesol ar gyfer datrys problem ansawdd aer gwael. Er enghraifft, mae gan fysiau yn Lloegr ddyfeisiau sy'n gallu hidlo aer wrth iddynt deithio, gan gael gwared ar lygredd aer gronynnol a chwythu aer pur allan y tu ôl iddynt. Gall y dyfeisiau hyn gael gwared ar hyd at 1.25 kg o ronynnau o'r aer bob blwyddyn, a chredaf ei bod yn warthus nad yw'r dyfeisiau hyn ar bob bws yng Nghymru. Yn yr un modd, mae'r Iseldiroedd, ymhlith gwledydd eraill, bellach yn defnyddio tyrau puro aer, sy'n gallu puro hyd at 3.5 miliwn metr ciwbig o aer y dydd. Pam nad yw'r tyrau hyn ar ein cylchfannau? Mae'r rhain yn atebion eithaf costeffeithiol i broblem fawr.
Mae'r Llywodraeth hon wedi rhoi cryn bwyslais ar eu cynllun teithio llesol, gan annog pobl i feicio a cherdded. Yn academaidd, mae hwn yn ateb gwych i'r broblem ac yn un yr wyf fi a fy mhlaid yn ei gefnogi. Rydym am weld y cynllun teithio llesol yn ehangu i gyflawni ei wir botensial. Fodd bynnag, yn fy marn i caiff ei lesteirio gan ddau beth pwysig sydd angen eu datrys cyn y gall y cynllun teithio llesol lwyddo mewn gwirionedd. Y cyntaf yw nad yw ffyrdd yn ddigon diogel i feicwyr. Er bod y llwybrau beicio pwrpasol yn darparu llwybrau teithio diogel, mae teithio ar ffyrdd i ac o'r llwybrau pwrpasol yn beryglus iawn. Mae'r ochr fewn i ffyrdd yn aml iawn yn llawn tyllau a cherrig, sydd nid yn unig yn gwneud beicio'n annymunol, ond yn beryglus. Mae yna fygythiad hefyd o gael eich taro gan geir, faniau a lorïau. Er bod mwyafrif y gyrwyr yn ystyriol tuag at feicwyr, mae rhai gyrwyr yn dal i fod yn llawer rhy ymosodol tuag at feicwyr, yn eu cam-drin yn eiriol ac weithiau hyd yn oed yn mynd ati'n fwriadol i geisio eu taro oddi ar eu beiciau. Yn aml iawn, mae ceir a lorïau yn gyrru'n rhy agos at feicwyr wrth iddynt fynd yn rhwystredig ynglŷn â chyflymder teithio. Mae beicwyr yn cael eu gorfodi i fynd ar y pafin gan gerbydau, mae'n rhaid iddynt ymdopi â drysau ceir yn agor yn sydyn, ac os cânt eu gwthio oddi ar eu beiciau, maent yn aml yn cwympo ar ymylon ffyrdd sy'n aml wedi'u gorchuddio gan wydr wedi torri, hoelion, anifeiliaid marw a sbwriel o bob math.
Yn 2019, roedd dwy farwolaeth ymhlith defnyddwyr cerbydau am bob biliwn o filltiroedd, ac i feicwyr roedd yn 29 ac i gerddwyr roedd yn 35. O ran anaf difrifol, roedd y gyfradd yn 29 achos o anafiadau difrifol i bob biliwn o filltiroedd ymhlith defnyddwyr cerbydau, tra bod y gyfradd i feicwyr yn 1,255, ac i gerddwyr yn 504. Yn yr arolwg cenedlaethol o agweddau tuag at deithio, cytunai dwy ran o dair o'r boblogaeth dros 16 oed ei bod yn rhy beryglus i feicio ar ffyrdd. Yn y pen draw, i feicwyr nid oes ots pwy sydd ar fai—byddant bob amser yn waeth eu byd o gael eu taro gan gerbyd. Ddydd Llun, cafwyd adroddiad gan y BBC am farwolaeth Andy Fowell, meddyg ymgynghorol wedi ymddeol a fu farw pan fu ei feic mewn gwrthdrawiad â bws yn Eryri. Er bod beicwyr a cherddwyr yn defnyddio'r llwybrau teithio llesol, maent yn gwneud ymarfer corff a chyda hynny, maent yn anadlu'n ddyfnach, ac mewn ardaloedd o ansawdd aer gwael, ni all hynny ond bod yn beth drwg.
Yn olaf, hoffwn ddweud am docynnau bws am ddim a sut y byddai eu cynnig i rai rhwng 16 a 25 oed yn ffordd wych o annog pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc i flaenoriaethu'r defnydd o fysiau drwy gydol eu bywydau. Rwyf fi a fy mhlaid o'r farn y byddai hyn yn helpu i annog y newid ymddygiad sydd ei angen i hyrwyddo teithio ar fysiau fel dewis amgen ymarferol yn lle'r car. Ddirprwy Lywydd, rwy'n gwneud y cynnig.