7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Trafnidiaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 29 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:02, 29 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Pan ddatganodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd yn 2019, roedd llawer ohonom yn disgwyl gweld gweithredu radical, ac mewn rhai meysydd polisi rydym wedi gweld uchelgais cryf mewn perthynas â chartrefi, ynni, coedwigaeth—mae'r rhestr yn parhau—i gyd wedi'i glymu gyda'i gilydd gan darged sero-net beiddgar ar gyfer 2050, ond gwyddom i gyd fod angen uchelgais mwy radical, a mwy o weithredu'n sail iddo. Mae'r ddadl heddiw yn ymwneud â thrafnidiaeth, maes polisi y mae arnaf ofn fod Llywodraeth Cymru wedi methu cyrraedd ei nodau ynddo er gwaethaf y ffaith bod 17 y cant o allyriadau Cymru yn deillio ohono.

Gadewch inni siarad am dollau, pwnc sydd eisoes wedi codi. Mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu'r syniad fod modurwyr yng Nghymru yn talu i ddefnyddio ffyrdd er mwyn ceisio mynd i'r afael â llygredd aer. Yn amlwg, mae Deddf aer glân yn rhywbeth rwy'n ei gefnogi'n gryf, ond nid yw Llywodraeth Cymru wedi mynd ymhellach hyd yma nag ymgynghori â'r cyhoedd ar y mater, gan awgrymu tollau o amgylch yr M4 yn ardal Casnewydd a'r A470 yn ardal Pontypridd. Yn sgil beirniadaeth—a gwn fod hyn eisoes wedi codi yn y cyfraniad blaenorol—mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oes unrhyw gynlluniau pendant ar gyfer y tollau hyn. Ac mae hyn yn anodd—rwy'n cydnabod bod hwn yn fater anodd. Mae pawb ohonom am fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, mae'n sefyllfa anodd iawn, ond byddai'r tollau hyn, o'u cyflwyno, yn brifo'r tlotaf mewn cymdeithas.

Gwyddom fod mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng llygredd yn galw am feddwl integredig a dulliau o annog pobl i newid eu harferion mewn ffyrdd a fydd yn dod â hwy gyda ni. Hyd yn oed gyda'r tollau ar waith i groesi afon Hafren, er enghraifft, dros nifer o flynyddoedd cynyddodd y traffig oddeutu 4 y cant o flwyddyn i flwyddyn. Yn aml, yr hyn y byddai tollau'n ei wneud mewn gwirionedd yw cymell pobl i osgoi'r taliadau drwy ddilyn llwybr arall drwy gymunedau, gan arwain at fwy o dagfeydd a llygredd aer mewn trefi a phentrefi bach.  

Ond mae'r broblem yn dal i fodoli hefyd fod dileu tollau croesi afon Hafren hefyd wedi cynyddu traffig, ac felly wedi cynyddu allyriadau carbon a llygredd aer. Mae data gan Highways England wedi dangos, ar ôl cael gwared ar y tollau hynny, fod cynnydd o 18 y cant wedi bod yn y traffig sy'n croesi pont Hafren ei hun, a chynnydd o 34 y cant dros yr hen bont Hafren. Felly, gyda thollau neu heb dollau, mae'r allyriadau'n codi. Mae'n ymddangos bod ein harferion wedi gwreiddio'n ddwfn.

Nawr, mae llawer o bobl a busnesau yn dal i ddibynnu ar ffyrdd, ac mae angen newid dramatig i gyrraedd sero-net erbyn 2050. Byddwn yn croesawu sylwadau gan y Dirprwy Weinidog am gynlluniau i fuddsoddi mewn cerbydau trydan a'r seilwaith gwefru, ymchwil a datblygu i wella technolegau sy'n bodoli eisoes ac i ddatblygu technolegau'r dyfodol. Gallai Llywodraeth Cymru archwilio syniadau fel priffyrdd trydan yn unig a thwneli mewn ardaloedd lle ceir llygredd aer uchel a thagfeydd. Yn hollbwysig, Ddirprwy Lywydd, credwn y dylai Cymru fod yn gymuned gydgysylltiedig o gymunedau, ac mae angen i bobl ledled Cymru gael eu cysylltu â'i gilydd gan system drafnidiaeth gyhoeddus wirioneddol integredig gyda mwy o ddibyniaeth ar ddulliau teithio ecogyfeillgar. Rwy'n cydnabod bod hwn yn faes y mae'r Dirprwy Weinidog yn teimlo'n angerddol iawn yn ei gylch, ond rwy'n siŵr y bydd yn cytuno y bydd angen mwy fyth o fuddsoddiad i allu gwireddu'r uchelgais. Beth am ofyn i Trafnidiaeth Cymru greu rhwydwaith rheilffyrdd i Gymru gyfan sy'n cysylltu'r gogledd a'r de a galluogi traffig rheilffordd rhwng prif ganolfannau poblogaeth? Beth am gyfuno rheilffyrdd â gwasanaeth bws wedi'i reoleiddio, a beth am roi pŵer i awdurdodau lleol sefydlu eu cwmnïau bysiau trefol eu hunain? Ac wrth gwrs, rhaid inni weld datganoli'r holl wasanaethau rheilffyrdd yn llawn yng Nghymru, gyda chyllid digonol. Nid yw'r sefyllfa bresennol ar gyfer y rheilffyrdd wedi gweithio. A allwn ni ymddiried yn San Steffan i gyflawni newidiadau hanfodol yng Nghymru? Credaf ein bod eisoes yn gwybod yr ateb i hynny.

Felly, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, gadewch inni sicrhau ein bod yn mynd â phobl gyda ni ar y daith hon. Gadewch inni beidio â chosbi'r rhai sy'n methu ei fforddio. Gadewch inni yn hytrach gynnig gwell cyfleoedd trafnidiaeth iddynt. Beth am wella seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus a'i wneud yn wyrddach cyn meddwl am dollau a phrisiau ffyrdd ar ffyrdd Cymru.