Part of the debate – Senedd Cymru am 5:24 pm ar 29 Medi 2021.
Mae'n bleser cael cymryd rhan yn y ddadl hon. Rwyf am wrthbrofi un neu ddau o'r pethau y mae'r Ceidwadwyr eisoes wedi'u dweud. Rwyf am gwestiynu greal sanctaidd effaith gadarnhaol dileu tollau croesi afon Hafren. Efallai y bydd Peter Fox yn cofio cymaint y cynyddodd y pwysau ar dai yn yr ardaloedd o amgylch sir Fynwy, wrth ymyl ein ffin â Lloegr, oherwydd, yn amlwg, roedd yn fwy deniadol i bobl a oedd yn byw yn ardal Bryste ddod i fyw mewn tai rhatach yng Nghymru. Felly, yn amlwg, gallai hynny gynyddu llawer o'r traffig cymudo, sy'n amlwg yn cynyddu ein hallyriadau carbon. Wrth gwrs, rwy'n parchu'r ffaith ei fod wedi gostwng y costau i bobl a oedd yn gorfod mynd i weithio ar yr ochr arall i'r ffin am nad oeddent yn gallu cael gwaith addas yng Nghymru, ond serch hynny, mae cost sylweddol wedi deillio o ddileu'r tollau ar bont Hafren, a chydnabyddir hynny'n llawn yn adroddiad Awdurdod Cyfun Gorllewin Lloegr y mae Caerdydd yn aelod ohono. Mae'n sôn am gost fawr y tagfeydd cynyddol i'r rhanbarth, cost y maent yn ystyried ei bod yn £300 miliwn y flwyddyn, a bod dileu tollau pontydd Hafren yn debygol o fod wedi gwaethygu'r broblem. Felly, maent bellach yn ystyried mesurau rheoli galw, megis codi tâl ar y ddwy ochr i afon Hafren er mwyn codi refeniw ar gyfer dewisiadau trafnidiaeth gynaliadwy amgen.
Hefyd, hoffwn gywiro Joel James ynglŷn â'r syniad mai Caerdydd, rywsut, yw'r ddinas sy'n tyfu fwyaf yn y DU o ganlyniad i ostwng y tollau. Caerdydd oedd y ddinas a oedd yn tyfu gyflymaf yn y DU yn barod, cyn y tollau, a gobeithio y gwelwn dwf ychydig yn llai oherwydd effaith yr holl draffig ar lefelau anghyfreithlon o lygredd aer. Pam ar y ddaear y byddem am ddiystyru tollau fel ysgogiad polisi os canfyddwn fod llygredd aer yn un o brif achosion dementia? Rwy'n cyfeirio'n ôl at y ddadl a gawsom yn gynharach. Rhaid inni ei gael yn yr arfogaeth rhag ofn y bydd ei angen arnom, oherwydd ni allwn barhau i wneud ein poblogaeth yn agored i lefelau anghyfreithlon o lygredd aer.
Hoffwn eich atgoffa o ddyfyniad gan eich arweinydd eich hun. 'Mae angen i'r ddynoliaeth dyfu i fyny a dod yn oedolyn', meddai Boris Johnson. Wel, rwy'n credu bod angen i'r Ceidwadwyr Cymreig dyfu i fyny a dod yn oedolion. Mae gennym argyfwng hinsawdd, ac mae hynny'n golygu bod rhaid inni newid ein ffyrdd. Gadewch imi egluro wrthych beth y mae hynny'n ei olygu. Roedd tystiolaeth i'r pwyllgor newid hinsawdd a'r amgylchedd gan Sustrans yn ein hatgoffa nad yw newid o gerbydau diesel a phetrol yn mynd i fod yn ddigonol i gyrraedd ein targedau lleihau allyriadau carbon y gwnaethoch chi, y Torïaid, bleidleisio drostynt. Felly, hyd yn oed os yw pob car newydd yn un allyriadau isel iawn erbyn 2035, bydd yn rhaid inni leihau nifer y milltiroedd a deithiwn yn ein ceir 58 y cant rhwng 2016 a 2035 os ydym am osgoi'r trychineb o beidio â chyrraedd ein targedau lleihau carbon. Felly, bydd yn rhaid inni wneud pethau'n wahanol.
Hoffwn ofyn i Joel James sut y teithiodd i'r Senedd heddiw, oherwydd, os na fyddwn ni yn newid ein ffyrdd, ni allwn ddisgwyl i bobl eraill—