Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 5 Hydref 2021.
Diolchaf i Jack Sargeant. Llywydd, mae cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc yn Alun a Glannau Dyfrdwy yn cael ei ddarparu drwy amrywiaeth o wasanaethau, o ymyrraeth ataliol a chynnar i wasanaethau arbenigol ar gyfer pobl â salwch difrifol. Mae cynorthwyo ysgolion i wella llesiant emosiynol a meddyliol wedi bod yn bwyslais penodol i ddatblygiad polisïau a gwasanaethau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.