Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 5 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:55, 5 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Mae 1,600 o swyddi gwag yn y GIG yng Nghymru eisoes. Ar ôl y flwyddyn y maen nhw wedi ei chael, sut bydd cynnydd o 3 y cant i gyflogau yn argyhoeddi'r rhai sydd yn weddill i aros pan fydd hyd yn oed Llywodraeth Lafur yn gorfodi dyfarniad cyflog is na chwyddiant ar nyrsys? A allwch chi eu beio nhw mewn gwirionedd pan fo staff y GIG yn teimlo eu bod wedi cael cam, nad ydyn nhw'n cael eu gwerthfawrogi'n ddigonol a'u bod nhw'n cael eu hanwybyddu?