1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 5 Hydref 2021.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi iechyd meddwl pobl sydd yn dioddef trawma yn sgil yr argyfwng hinsawdd a natur? OQ56977
Llywydd, i'r rhai sy’n cael eu heffeithio gan yr argyfwng hinsawdd, nod Llywodraeth Cymru yw rhoi cyfleon i gymryd camau ar y cyd sy'n gwneud gwahaniaeth. Er enghraifft, mae ein rhaglen o ddigwyddiadau o amgylch COP26 wedi ei chynllunio i roi gobaith i'r rhai sy'n teimlo eu bod wedi'u llethu gan faint yr argyfwng.
Diolch, Prif Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol, dwi'n siŵr, fod llifogydd wedi bod unwaith eto dros nos gan effeithio busnesau a thai yn fy rhanbarth. Yn wir, bûm allan y bore yma yn gweld y difrod gyda fy llygaid fy hun ym Mhontypridd, Cilfynydd a Rhydyfelin. Mae'r trawma, heb sôn am y dinistr, yn amlwg, a hyd yn oed yn yr ardaloedd hynny na chafodd eu heffeithio neithiwr ond a ddioddefodd y llynedd, fel Clydach Terrace yn Ynysybwl, Oxford Street yn Nantgarw, dwi'n gwybod o'r degau o negeseuon wnes i eu derbyn dros nos eu bod nhw heb gysgu o gwbl neithiwr. Fe fyddwch chi'n ymwybodol fy mod i'n parhau i ymgyrchu am ymchwiliad annibynnol i lifogydd 2020. Mae neithiwr, unwaith eto, yn profi i mi'r angen am hyn, ond hyd yn oed heb hynny, beth ydych chi am ei wneud i sicrhau mwy o gefnogaeth i ddioddefwyr llifogydd o ran eu hiechyd meddwl a'r trawma amlwg maen nhw'n parhau i'w ddioddef?
Llywydd, dwi wedi gweld adborth yn ôl oddi wrth pobl sy'n gweithio yn y rheng flaen ym Mhontypridd ac yn RCT i gyd ar ôl y glaw trwm neithiwr, ac rŷm ni'n dal i aros am y manylion diweddaraf.
Yn gyffredinol, i droi at y cwestiwn, rydym ni wedi gweithredu i gryfhau gwasanaethau trawma yng Nghymru, gan gynnwys yn yr amgylchiadau mae'r Aelod wedi'u disgrifio. Mae Straen Trawmatig Cymru wedi derbyn dros £1 miliwn o gyllid y flwyddyn ariannol yma. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gan weithwyr yn y gwasanaethau hynny sydd yn dod i gyswllt â phobl mewn sefyllfa trawmatig y sgiliau a'r hyfforddiant sydd eu hangen arnynt i ymateb yn y ffordd orau.
Yn benodol, yn clywed beth ddywedodd yr Aelod am Ynysybwl, dwi'n gwybod bod Aelod etholaeth yr ardal wedi ysgrifennu at y Gweinidog Julie James am y materion hyn ym mis Gorffennaf. Fe wnaeth yr Aelod dderbyn ateb yn esbonio camau brys sydd wedi cael eu rhoi ar waith i gefnogi'r bobl hynny sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd, yn ogystal â'r camau mwy hirdymor sy'n cael eu rhoi ar waith gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Prif Weinidog, mae llawer o bobl, gan fy nghynnwys i, yn pryderu yn gwbl briodol am iechyd ein planed ac iechyd meddwl ein pobl ifanc. Rwy'n cofio pryd cafodd rhaglen ddogfen ei dangos i bobl o fy oedran i yn yr ysgol, ar Al Gore yn rhagweld senario dydd y farn oni bai fod newidiadau radical yn cael eu gwneud, ac y byddai'r byd fel yr oeddem ni'n ei adnabod drosodd yn 2006. Rwy'n falch o ddweud ein bod ni yma o hyd. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ddim byd o'i gymharu â'r hyn sy'n cael ei ddangos i blant ar y teledu a'r cyfryngau cymdeithasol erbyn hyn. Maen nhw'n cael eu gwleidyddoli yn llawer mwy ar y pwnc na chafodd fy nghenhedlaeth i erioed. Er bod angen i'n plant fod yn ymwybodol o'r newid yn yr hinsawdd a'r argyfwng hinsawdd, mae gennym ni ddyletswydd i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud mewn ffordd sensitif i ddiogelu eu hiechyd meddwl. Rwyf i eisiau i'r genhedlaeth nesaf gael neges gadarnhaol ar ba gamau y gallwn ni eu cymryd, a chael effaith gadarnhaol ar ddiogelu'r amgylchedd. Yr hyn nad ydym ni eisiau ei wneud yw dychryn pobl ifanc a gwneud iddyn nhw deimlo'n ddiymadferth neu ddal dig at y genhedlaeth ddiwethaf. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n credu bod ffordd well y gallwn ni addysgu plant ifanc Cymru am y newid yn yr hinsawdd mewn ffordd fwy sensitif nad yw'n cael effaith negyddol ar iechyd meddwl pobl ifanc, ond sy'n gweithio tuag at fynd i'r afael â'r heriau yr ydym ni i gyd yn eu hwynebu o ran yr hinsawdd? Diolch, Llywydd.
Llywydd, rwy'n cytuno â'r pwynt hwn y gwnaeth yr Aelod ei godi, bod yn rhaid i bob un ohonom ni ddod o hyd i ffyrdd o helpu'r bobl hynny sydd yn teimlo eu bod wedi eu llethu gan her y newid yn yr hinsawdd i ddod o hyd i bethau y gallan nhw eu gwneud sy'n gwneud gwahaniaeth, oherwydd dyna sy'n rhoi gobaith i bobl pan fyddan nhw'n teimlo yn anobeithiol, gan deimlo bod rhywbeth y gallan nhw ei wneud, a all, drwy ei ychwanegu at bopeth arall y mae pobl eraill yn ei wneud, gael effaith wirioneddol.
Mae gennym ni reswm da dros wneud hynny yma yng Nghymru. Byddwn yn gwybod, pan ddaeth y Senedd i fodolaeth, fod gan Gymru rai o'r cyfraddau ailgylchu isaf ledled y byd. Heddiw, mae gennym ni'r cyfraddau gorau ond dau ledled y byd. Pan fyddaf i'n siarad â phobl ifanc, rwy'n dweud wrthyn nhw, 'Dyna enghraifft o'r ffordd y mae modd gwneud gwahaniaeth. Ni ddylech chi deimlo yn anobeithiol am y dyfodol. Mae'n iawn i deimlo'n bryderus, ond os byddwn ni'n gwneud pethau iawn ac os byddwn ni'n gweithredu gyda'n gilydd, yna gallwn ni wneud gwahaniaeth.'
Nawr, pan fyddwn yn cynnal ein hwythnos hinsawdd ein hunain, Wythnos Hinsawdd Cymru, ym mis Tachwedd, bydd gennym ni gyfres o weithgareddau y bydd pobl ifanc yn arbennig yn gallu cymryd rhan ynddyn nhw. Mae'r cyfan yn canolbwyntio ar y pethau hynny y mae angen i ni eu gwneud heddiw, yn y ffordd y gwnaeth arweinydd yr wrthblaid, llefarydd yr wrthblaid—mae'n ddrwg gen i—ddechrau ei gwestiynau heddiw: y pethau hynny y mae angen i ni eu gwneud o ran trafnidiaeth, o ran adeiladau preswyl, o ran yr economi gylchol, o ran y ffordd yr ydym ni'n ymdrin â risgiau amgylcheddol. Ac os byddwn ni'n ei wneud fel hynny, trwy ddweud wrth ein pobl ifanc, cyn belled â'n bod ni'n gwneud y pethau iawn a chyn belled â'n bod ni'n eu gwneud nhw gyda'n gilydd, mae gobaith gwirioneddol ar gyfer y dyfodol, yna rwy'n credu y gallwn ni helpu i oresgyn rhai o'r teimladau y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw.