1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 5 Hydref 2021.
5. Sut bydd Llywodraeth Cymru yn gwella'r amgylchedd dysgu mewn ysgolion ledled Cymru? OQ56981
Llywydd, diolchaf i Buffy Williams am y cwestiwn yna. Mae ein rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain eisoes hanner ffordd drwy ei hail don. Bydd y buddsoddiad gwerth £2.3 biliwn yn creu ysgolion a cholegau newydd, yn gwella ein seilwaith colegau ac ysgolion presennol, ac yn cefnogi anghenion cymunedau lleol.
Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n falch iawn y bydd y rhaglen hirdymor uchelgeisiol o ddiwygio addysg yng Nghymru yn parhau yn ystod y chweched Senedd gyda chwricwlwm newydd i Gymru, Bil addysg Gymraeg, y system anghenion dysgu ychwanegol newydd, a buddsoddiad ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Ddoe, derbyniodd aelodau cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf gynigion i weddnewid Ysgol Gynradd Penrhys ac Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yn ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Mae'r rhain yn ddatblygiadau cyffrous iawn i'r ddwy ysgol, sydd ag angen dybryd am gyfleusterau newydd sbon. A ydych chi'n cytuno â mi y byddai cyfleusterau ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn gwneud byd o wahaniaeth i lesiant ac addysg disgyblion a staff? Ac a wnewch chi ymrwymo i fuddsoddiad ysgolion yr unfed ganrif ar hugain pellach i helpu i gau'r bwlch ar anghydraddoldebau addysg yng Nghymru?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn pwysig iawn yna. Ni allaf ddychmygu bod unrhyw Aelod, yn y Siambr neu ar-lein, Llywydd, nad yw wedi gweld yr effaith y mae'r rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi ei chael yn yr ardal y maen nhw'n ei chynrychioli. Mae'n rhaglen ragorol ac mae'n gwneud yn union y math o wahaniaeth y cyfeiriodd Buffy Williams ato ym mhob rhan o Gymru. Mae RhCT wedi bod, fel y byddem ni'n ei ddisgwyl, yn gyngor blaengar iawn yn y maes hwn, yn uchelgeisiol iawn ar gyfer yr hyn y gall y rhaglen ei wneud: cafodd £173 miliwn ei wario yn RhCT yn unig yn ystod band A y rhaglen; bydd £252 miliwn i'w wario yn ystod band B, ac mae hynny yn cynnwys, fel y bydd yr Aelodau wedi clywed, Ysgol Gyfun Cwm Rhondda. Newyddion da iawn i wybod bod y cyngor wedi cadarnhau hynny a'r ysgol arall ddoe.
Llywydd, yn union fel yr awgrymodd Buffy Williams, nid yw'n ymwneud â nifer yr ysgolion sy'n cael eu gwella neu eu hadeiladu o dan y cynllun yn unig—170 ym mand A, 200 ym mand B—mae'n ymwneud ag ansawdd yr adeiladau a'r agendâu eraill hynny y gall yr ysgolion a'r colegau unfed ganrif ar hugain hynny eu datblygu erbyn hyn: yr agenda teithio llesol, yr agenda hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, gan eu gwneud nhw'n ysgolion gwirioneddol gymunedol, fel eu bod nhw'n cael yr effaith honno ar anghydraddoldeb mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae'n rhaglen ardderchog ac rydym ni, wrth gwrs, wedi ymrwymo'n llwyr iddi yn ystod y tymor Senedd hwn.
Prif Weinidog, yn fy marn i mae amgylchedd dysgu yn yr ysgol yn ymestyn ei hun i ansawdd y cyfleusterau sydd ar waith, ac mae rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, yn rhagorol. Mae'n wych. Rwyf i wedi ymweld â llawer o ysgolion fy hun. Mae fy mab yn mynychu un. Maen nhw'n dda iawn, iawn. Ond pan oeddwn i'n gyrru yn ôl i lawr o gynhadledd y Blaid Geidwadol ym Manceinion ddoe, daeth yn amlwg iawn bod y cyfleusterau chwaraeon sydd gan ysgolion, boed hynny mewn ardal ddifreintiedig neu ardal a oedd yn fwy llewyrchus, yn llawer gwell na'r hyn sydd gennym ni yng Nghymru a'r hyn yr wyf i'n ei weld yn fy rhanbarth i a ledled Cymru pan fyddaf i'n ymweld ag ysgolion.
Yn bersonol, rwy'n credu os yw'r Llywodraeth o ddifrif ynghylch iechyd plant, gordewdra plant a chyfle cyfartal yn gyffredinol, ledled y DU, yna mae angen i ni gael buddsoddiad enfawr yn y cyfleusterau chwaraeon ar draws pob ysgol, nid dim ond y rhai newydd sy'n cael eu hadeiladu. Mae maint y gwaith diweddaru sydd ei angen, yn fy marn i, mor fawr fel na allwn ni ddibynnu ar y cyllid gan yr awdurdodau lleol yn unig; mae'n rhaid iddo ddod gan y Llywodraeth hon yng Nghymru. Mae angen i'r newid aruthrol hwn y mae wir ei angen ddigwydd nawr os ydym ni o ddifrif ynghylch buddsoddi yn ein plant a dyfodol ein gwlad, i sicrhau bod gan ein plant y cyfleusterau sydd eu hangen arnyn nhw ac maen nhw'n eu haeddu. A ydych chi'n cytuno â mi fod angen i'r Llywodraeth hon fuddsoddi yn ein plant nawr?
Rwy'n sicr yn cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am bwysigrwydd cyfleusterau chwaraeon, ac mae rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn sicr yn darparu hynny, ochr yn ochr â'r adeiladau ysgol y mae'n eu cynhyrchu. Yn fy etholaeth i, lle bydd Ysgol Uwchradd Fitzalan yn elwa ar raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, mae'n dod gyda phwll nofio newydd, mae'n dod gyda chaeau 4G, mae'n dod gydag academi griced newydd, gan wneud yr holl fathau o bethau y mae'r Aelod yn eu disgrifio. Rydym ni wedi darparu cyllid yn y flwyddyn ariannol hon i gyngor chwaraeon Cymru allu gwella cyfleusterau at ddefnydd cymunedol mewn ysgolion nad yw rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi eu cyrraedd eto. Felly, rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd yr Aelod, ac eithrio'r ffordd eithaf anobeithiol y mae Aelodau'r Blaid Geidwadol yng Nghymru yn dyheu yn barhaus eu bod nhw'n byw mewn gwlad wahanol.