Gwasanaethau Iechyd Sylfaenol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 5 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:02, 5 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, yn ystod a chyn y pandemig roeddech chi'n ymwelydd rheolaidd â meddygfeydd teulu yn ne Clwyd, gan gynnwys yn y Waun a Llangollen. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch yr holl staff mewn meddygfeydd teulu am y gwaith anhygoel y maen nhw wedi ei wneud yn ystod y pandemig, gan gynnwys, wrth gwrs, staff derbynfa? A wnewch chi hefyd ymuno â mi i gondemnio'r holl ymddygiad ymosodol tuag at staff iechyd gofal sylfaenol?