Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 5 Hydref 2021.
Yn iawn, maen nhw'n gweithio'n eithriadol o galed ac wedi gweithio'n eithriadol o galed nid dim ond dros y 18 mis diwethaf, ond yn wyneb rhybuddion ynglŷn â diffyg capasiti yn y blynyddoedd cyn hynny. Nawr, chwe blynedd yn ôl, mi wnaeth Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu arolwg o feddygon teulu yn Wrecsam pan ddywedodd traean ohonyn nhw eu bod nhw'n bwriadu gadael y proffesiwn o fewn pum mlynedd. Chwe blynedd yn ddiweddarach, wrth gwrs, mae hynny wedi'i wireddu, felly ydych chi'n difaru ichi fethu â gweithredu'n ddigonol yr adeg honno, yn wyneb y rhybuddion ynglŷn â cholli doctoriaid yn ardal Wrecsam, a beth ŷch chi'n ei wneud nawr i wneud yn iawn am hynny?