Brechlyn COVID-19

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 5 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:23, 5 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn pwysig iawn yna. Mae ymdrechion i roi hwb i'r nifer sy'n cael brechiad ymhlith y rhai sy'n dal i fod heb eu brechu yn erbyn COVID-19 yn parhau, gydag amrywiaeth o gamau gweithredu ar waith i alluogi mynediad rhwydd ac i feithrin ymddiriedaeth. Mae clinigau dros dro, canolfannau galw i mewn, clinigau gyrru i mewn a gwaith gweithwyr allgymorth byrddau iechyd ymysg y dulliau sy'n cael eu defnyddio i wneud hynny.