Part of the debate – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 5 Hydref 2021.
Wrth i ni nesáu at COP26, hoffwn i gael datganiad ynghylch yr hyn y bydd y Llywodraeth yn ei wneud i ymdrin â'r pryder hinsawdd y mae nifer cynyddol o bobl ifanc yn ei deimlo. Arweiniais i ddadl ar y mater hwn ym mis Mehefin, Trefnydd, ac rwyf i'n awyddus iawn i ni weld cynnydd. Gwnaeth astudiaeth gan Brifysgol Caerfaddon ddarganfod bod 56 y cant o bobl ifanc yn credu ei bod hi ar ben ar ddynoliaeth oherwydd newid yn yr hinsawdd. Mae'r teimlad hwn o bryder yn endemig ac mae'n gwaethygu. Ac rwyf i wedi siarad â'r llysgenhadon hinsawdd ieuenctid am y mater hwn hefyd. Yr hyn sydd ei eisiau ar bobl ifanc a'r hyn sydd ei angen arnyn nhw yw teimlo eu bod wedi eu grymuso, bod pobl yn gwrando arnyn nhw, i wybod nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain wrth deimlo'n ofnus neu'n bryderus, ac i wybod beth sy'n cael ei wneud i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng, yr hyn y gallwn ni i gyd ei wneud i chwarae ein rhan.
Trefnydd, mae cyflawni'r cydbwysedd cywir yn allweddol o ran peidio â bychanu difrifoldeb y newid hinsawdd, ond ei ail-lunio yn y cwricwlwm, yn y canllawiau sy'n cael eu rhoi i athrawon, fel bod y pwyslais ar y prosiectau cymunedol gwych a chadarn sy'n mynd rhagddynt, camau ataliol, a'r asiantaeth sydd gennym ni i gyd. Rwy'n gwybod bod hyn wedi ei godi'n gynharach yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, Trefnydd, ond nid yw pobl ifanc yn dymuno clywed bod eu hofnau'n ddi-sail, oherwydd dydyn nhw ddim. Mae ganddyn nhw bob hawl i fod yn ddig hefyd oherwydd y cyflwr y mae'r byd ynddo wrth i ni ei roi iddyn nhw, ond mae angen i ni weithio gyda phobl ifanc nid ar eu rhan yn unig.
Felly, a wnaiff y Llywodraeth ddatganiad cyn gynted â phosibl yn nodi sut y byddwch chi'n gweithio gyda phob un ohonom ni sy'n dymuno rhoi sylw i bryder yn yr hinsawdd a'i achosion, a rhoi llais cryfach i bobl ifanc wrth ein helpu i benderfynu sut yr ydym yn mynd i'r afael â her fwyaf y ddynoliaeth ar y cyd?