Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 5 Hydref 2021.
Dwi'n meddwl ei bod yn dweud y cyfan pa mor fud yw'r Siambr y prynhawn yma yn gwrando ar hyn. Mae'r straeon a'r adroddiad yn anodd iawn i'w clywed, i'w darllen, a dwi'n gwybod bod nifer ohonoch chi hefyd wedi cyfarfod nifer o'r rhieni yma a'u teuluoedd a chlywed ganddyn nhw, a pha mor emosiynol ydy o. Efallai y dylwn i hefyd ddatgan ar y dechrau fod fy mab fy hun wedi ei eni yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a fy mod i wedi derbyn ymddiheuriad yn sgil y profiad echrydus dderbyniodd y ddau ohonon ni. Mi oedd hyn yn 2013, ac mae gweld bod y gwersi, efallai, heb eu dysgu o'r gŵyn honno yn rhywbeth sy'n aros efo finnau hefyd. Wrth lwc, mae o bellach yn wyth oed, ond mae pawb yn darllen yr adroddiad hwn a meddwl sut y gallai pethau fod wedi bod yn wahanol, a dwi ddim yn meddwl byddai unrhyw un yn gallu peidio â chael eu heffeithio gan straeon y rhieni hynny.
Unwaith eto, rydyn ni wedi clywed am fethiannau difrifol o ran y gofal a dderbyniwyd yn Cwm Taf Morgannwg. Mae'n ddiwrnod anodd i'r rhieni gafodd eu heffeithio gan y methiannau hyn ac mae'n iawn bod y Gweinidog wedi ymddiheuro am hyn, ond mae'n rhaid pwysleisio, fel dywedoch chi, does yna ddim geiriau all ddod â'r rhai a gollwyd yn ôl na lleihau'r golled. O ddechrau'r sgandal hon, mae Plaid Cymru wedi galw am adolygiadau eang i'r hyn sydd wedi digwydd, ac rydym yn croesawu cyhoeddi'r adroddiad arall yma heddiw. Rydyn ni bob amser wedi pwysleisio ei bod yn bwysig bod yr adolygiad yn ymchwilio pam fod cymaint o fabanod wedi marw mewn cyfnod mor fyr. Mae'r adroddiad newydd sydd wedi'i gyhoeddi heddiw, fel sydd wedi cael ei ddweud, yn dangos bod un o bob tri o fabanod gafodd eu geni'n farw, buasen nhw wedi gallu goroesi heblaw am gamgymeriadau difrifol yn eu gofal, ac mae hyn yn frawychus dros ben. Ac i mi hefyd, nid dim ond yr ystadegyn hwnnw o ran y traean o blant a allai fod yn dal efo ni rŵan, ond y ffaith, mewn 37 achos pellach, fod yr adolygiad yn awgrymu y gallai un neu ragor o gamgymeriadau bach fod wedi digwydd, er y mae'n annhebygol y gallai'r rhain fod wedi arwain at ganlyniad gwahanol—ond annhebygol, nid yn bendant—a dim ond mewn pedwar achos y daeth yr arbenigwyr i'r casgliad na ddylid wedi gwneud unrhyw beth yn wahanol.
Er bod y bwrdd iechyd a'r Llywodraeth yn croesawu'r casgliadau, mae'n amlwg bod mwy sydd angen ei wneud. Ydy, mae hwn yn bwnc emosiynol i nifer o bobl. Mae'r newyddion wedi ailagor nifer o greithiau emosiynol i rieni; nid yw'n bosibl gorbwysleisio'r boen, y brifo, y niwed a'r gofid sydd wedi'i achosi i bob un o'r teuluoedd y mae'r sgandal hon wedi effeithio arnynt ac mae hynny'n parhau.
Nid rhywbeth sydd wedi digwydd yn y gorffennol ydy hyn; mae pobl yn mynd i fod yn byw efo fo am weddill eu bywydau. Y canlyniad gorau posib fyddai i'r Llywodraeth a'r bwrdd iechyd weithredu'r argymhellion o'r adroddiadau hyn er mwyn sicrhau na fydd y methiannau byth yn digwydd eto. Ac mae yna nifer o gwestiynau, dwi'n tybio, o ran atebolrwydd sydd yn dal i fod angen eu hateb, hyd yn oed gyda chyhoeddi'r adroddiad hwn. Mi roddodd yr adroddiad a'r datganiad lawer o bwyslais ar y gwelliannau a'r dysgu sydd wedi digwydd, ond mae'n rhaid hefyd cael atebolrwydd. Ac a all y Gweinidog ddweud â'i llaw ar ei chalon fod atebolrwydd wedi bod o ran y sgandal hon, o ystyried bod nifer o'r arweinyddion blaenorol o ran y bwrdd iechyd wedi cael taliadau mawr wrth adael a'u bod nhw'n parhau i weithio yn y maes iechyd rŵan, efallai mewn bwrdd iechyd gwahanol, tra bod y rhai sydd wedi dioddef profedigaeth wedi cael eu gadael heb ddim? Ble mae'r atebolrwydd, Weinidog?