3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 5 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:44, 5 Hydref 2021

Diolch yn fawr, Llywydd. Yn gynharach heddiw, mi wnes i gyhoeddi'r ddau adroddiad diweddaraf gan y panel trosolwg annibynnol ar wasanaethau mamolaeth. Dwi'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am y rôl maen nhw wedi parhau i chwarae dros y flwyddyn ddiwethaf a'u hymrwymiad parhaus i'r gwaith yma.