Part of the debate – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 5 Hydref 2021.
Mae Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol wedi'i chanmol yn rhyngwladol, ac yn gwbl briodol felly. Mae'n ddarn arloesol o ddeddfwriaeth sydd â'r potensial i drawsnewid ein gwlad er gwell. Pwy allai ddadlau â deddfwriaeth sy'n ymgorffori saith nod llesiant trawsbynciol o ffyniant, cydnerthedd, iechyd, cydraddoldeb, cymunedau cydlynol, diwylliant bywiog gydag iaith Gymraeg ffyniannus, ac yn olaf Cymru fyd-eang, gyfrifol? O ran rhestr ddymuniadau i Gymru, mae'n anodd gweld bai arni. Rwy'n credu hefyd ei bod yn bwysig i ddatganoli fod gennym enghraifft o wahaniaeth sy'n dangos y gallwn ni wneud pethau'n wahanol ac yn well yma yng Nghymru. Mae'r Ddeddf hon, ar bapur o leiaf, yn sicr yn gwneud hynny.
Fodd bynnag, fel sy'n digwydd yn aml gyda deddfwriaeth, mae'r bwriadau gorau'n aml yn cael eu siomi gan y gweithredu. Yn anffodus, dyna'r hyn a welsom ni gyda Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Canfu Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd, a adroddodd ym mis Mawrth eleni, nad yw uchelgeisiau radical y Ddeddf wedi'u cyflawni gan y newid diwylliant angenrheidiol ar draws cyrff cyhoeddus. Hefyd, nid yw'r cyrff cyhoeddus hyn wedi gwneud digon i feithrin ymwybyddiaeth o'r newid i ddatblygu cynaliadwy ar draws gwasanaethau cyhoeddus.
Mae darn mor uchelgeisiol o ddeddfwriaeth hefyd yn gofyn am gyllid uchelgeisiol, ond nid yw hynny wedi digwydd. Mae cylchoedd ariannu byr a chyhoeddiadau ariannu hwyr wedi ei gwneud yn anodd i gyrff cyhoeddus gynllunio, cydweithio, a manteisio i'r eithaf ar yr adnoddau sydd ganddyn nhw. Nid yw cyllideb comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ychwaith wedi bod yn ddigonol i ganiatáu i'w swyddfa ddarparu digon o'r cymorth ymarferol sydd ei angen ar gyrff cyhoeddus i weithredu'r Ddeddf. Rwy'n cydnabod bod Brexit wedi gwneud pethau'n waeth o ran gweithredu'r Ddeddf gan ei bod wedi ei gwneud yn anoddach i gyrff cyhoeddus gynllunio ar gyfer dyfodol ansicr.
Rwy'n falch o weld bod nifer o fesurau wedi'u cymryd i gael pethau'n ôl ar y trywydd iawn yn y datganiad heddiw. Rwy'n croesawu dod â chyrff cyhoeddus at ei gilydd i drafod datblygu cynaliadwy ac allyriadau drwy fforwm cenedlaethol. Mae'r bwriad i lunio'r gyfres gyntaf o gerrig milltir cenedlaethol o fewn y Ddeddf erbyn diwedd y flwyddyn hefyd i'w ganmol. Mae ceisio ehangu cwmpas y Ddeddf i gynnwys mwy o gyrff cyhoeddus hefyd yn gam cadarnhaol. Rwy'n gobeithio, gyda'ch gilydd, y bydd eich mesurau'n mynd i'r afael â rhai o'r diffygion a nodwyd fel rhai sy'n atal y ddeddfwriaeth rhag cyflawni ei photensial llawn.
Os ydym ni am gyflawni'r saith nod, bydd angen inni weld mwy o weithredu ar amrywiaeth o feysydd polisi. Hyd nes y gwelwn gynnydd pellach o ran mynd i'r afael â materion fel yr argyfwng tai, dinistrio ein hamgylchedd a'r gyfradd ofnadwy o dlodi plant, ni fydd Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn dod yn fyw. Diolch.