Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 5 Hydref 2021.
—yr ydych chi'n eu derbyn. Felly, y cwestiwn mewn gwirionedd yw—nid wyf yn deall pam nad ydych chi wedi derbyn argymhelliad 2 yn llawn, eich bod yn edrych ar y ffordd y caiff y byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu hariannu, dim ond oherwydd—. Nid yw hyn yn ymwneud â rhoi llwyth o arian iddyn nhw fel eu bod yn mynd i'r cylchdro o geisiadau am grantiau; mae'n ymwneud â sicrhau y gallan nhw gael gafael ar gronfeydd ariannol wedi'u cyfuno fel nad ydyn nhw'n meddwl am bwy sy'n mynd i fod yn talu am logi'r lleiafswm o ystafelloedd ar gyfer cyfarfod â'i gilydd—