Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 5 Hydref 2021.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Yr wythnos diwethaf, siaradais am adroddiad ein pwyllgor yn ystod y ddadl ynghylch a ddylai’r Senedd hon roi cydsyniad i Fil yr Amgylchedd. Yr wythnos hon, rydym yn trafod cydsyniad ar gyfer y Bil Cymwysterau Proffesiynol, a gyda’ch gwahoddiad chi, Dirprwy Lywydd a'r Llywydd hefyd, mae’n debyg y byddwch yn fy ngweld yn eithaf rheolaidd o ystyried nifer y memoranda cydsyniad deddfwriaethol yr ydym ni, a’r Senedd yn ei chyfanrwydd, yn eu hystyried ar y funud.