Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 5 Hydref 2021.
Diolch yn fawr, Llywydd. Cynigiaf y cynnig sydd ger ein bron. Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn rhoi'r fframwaith deddfwriaethol ar waith ar gyfer y lefelau rhybuddio a ddisgrifir yng nghynllun rheoli'r coronafeirws. Mae swyddogion yn gweithio'n galed i ddiweddaru'r cynllun rheoli presennol ar gyfer cyfnod yr hydref a'r gaeaf. Ledled Cymru rydym ni wedi gweld cynnydd i gyfradd trosglwyddo COVID-19 yn ddiweddar, yn ogystal â chanran y bobl sy'n profi'n gadarnhaol. Er bod tystiolaeth yn parhau i ddangos bod y cysylltiad rhwng achosion a derbyniadau i'r ysbyty wedi gwanhau o ganlyniad i'r rhaglen frechu, nid yw wedi ei dorri. Mae pwysau ar ysbytai wedi bod yn cynyddu'n gyson ac mae pwysau ehangach yn parhau i effeithio ar ein system iechyd a gofal cymdeithasol.
Roedd y Prif Weinidog yn glir yn ei gyhoeddiad ar 17 Medi, er ein bod ni'n gallu aros ar lefel rhybudd 0, fod angen cymryd camau cynnar i osgoi niwed tymor hwy. Ar 27 Medi, cafodd rheoliadau diwygiedig drafft eu cyflwyno a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i bobl ddangos pàs COVID y GIG a fydd yn profi eu bod wedi cael eu brechu ddwywaith neu'n dangos y gallan nhw gyflwyno prawf llif ochrol negyddol yn ystod y 48 awr ddiwethaf. Bydd angen iddyn nhw gyflwyno hyn os ydyn nhw'n dymuno cael mynediad i'r lleoliadau a'r digwyddiadau canlynol o 11 Hydref ymlaen: clybiau nos a lleoliadau tebyg; digwyddiadau dan do, heb seddi ar gyfer mwy na 500 o bobl, lle mae pobl yn cymysgu'n agos am gyfnodau hir; digwyddiadau awyr agored heb seddi ar gyfer mwy na 4,000 o bobl, lle bydd pobl yn cymysgu'n agos am gyfnodau hir; ac unrhyw ddigwyddiad o unrhyw natur sydd â mwy na 10,000 o bobl yn bresennol. Mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau eu bod yn barod i weithredu'r systemau yr wythnos nesaf, ac rydym ni wedi paratoi canllawiau i helpu'r cyhoedd i ddeall pam a sut y bydd y system yn gweithio.
Llywydd, gadewch i mi fod yn glir: mae'r pàs COVID eisoes wedi ei ddefnyddio yng Nghymru ar gyfer rhai digwyddiadau dros yr haf, ac mae rhai safleoedd eisoes yn mynnu bod y pàs yn cael ei ddangos fel amod mynediad. Nid pasbort brechlyn yw hwn, a bydd gan bobl gyfle i ddangos eu bod wedi eu brechu'n llawn neu gallan nhw ddarparu tystiolaeth o brawf llif ochrol negyddol 48 awr cyn digwyddiad. Rwy'n ymwybodol bod y pàs COVID yn datgan 'yn ddilys yn Lloegr' ar hyn o bryd. Mae hyn yn anffodus ac yn adlewyrchu'r ffaith ein bod ni'n rhannu'r seilwaith â Llywodraeth y DU. Bydd y geiriad hwn yn newid cyn i'r system fod yn orfodol yng Nghymru. Rydym yn datblygu ap GIG Cymru a fydd yn cynnwys ein pàs COVID GIG ein hunain yn rhan o'r gwasanaethau digidol i gleifion a'r cyhoedd sy'n cael eu darparu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Bydd hwn ar gael yn gynnar yn 2022, a bydd hwn ar gael yn Gymraeg hefyd.
Bydd derbyniadau priodas, partneriaeth sifil ac amgen, ynghyd â the angladdau, wedi eu heithrio o ofynion pàs COVID, ynghyd â phrotestiadau a digwyddiadau cyfranogiad torfol. Rwy'n ymwybodol y bu rhai problemau cychwynnol gyda'r system yn yr Alban. Yma yng Nghymru, mae'r pàs COVID eisoes yn cael ei ddefnyddio'n helaeth, ac yn Lloegr yn yr un modd. Mae pàs COVID y GIG wedi ei ddefnyddio yng Nghymru ers pedwar mis yn barod, ac mae wedi ei lawrlwytho a'i ddefnyddio gan filoedd o bobl eisoes i gael mynediad i ddigwyddiadau ac i deithio dramor. Mae gennym ni gyfarwyddiadau clir eisoes ar llyw.cymru ar sut i gael gafael ar y pàs, a byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth o'r defnydd o'r pàs mewn cyfathrebiadau yn y dyfodol.
A gaf i fod yn glir? Nid ydym ni wedi penderfynu cyflwyno mesurau o'r fath yn ysgafn. Er ein bod ni'n gwybod bod y cyfraddau ymhlith y rhai dan 25 oed tua 1,000 fesul 100,000 o bobl, ac mai'r grŵp oedran hwn yw'r mwyaf tebygol o fynychu rhai o'r lleoliadau hyn, yn enwedig clybiau nos, rydym yn cymryd y camau hyn i gefnogi lleoliadau i aros ar agor a galluogi digwyddiadau i barhau trwy hydref a gaeaf a all fod yn anodd a heriol iawn. Nid yw cadw'r lleoliadau hyn ar agor yn benderfyniad hawdd yng ngoleuni cyfraddau COVID mor uchel.
Wrth i ni nesáu at y gaeaf, mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i gadw Cymru'n ddiogel. Rwy'n falch ein bod ni wedi cael y cyfle i drafod y cynnig hwn heddiw, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau. Anogaf yr Aelodau i gefnogi'r cynnig i gadw Cymru'n ddiogel yn ystod yr hydref a'r gaeaf hwn. Diolch.