Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 5 Hydref 2021.
Mae ystod eang o oblygiadau moesegol, cydraddoldeb, preifatrwydd, cyfreithiol a gweithredol yn gysylltiedig â phasbortau COVID. [Torri ar draws.] Rwy'n clywed rhai o'r Aelodau Llafur yn grwgnach yn y cefndir, ond y Prif Weinidog ei hun—a'r Gweinidog ei hun—sydd wedi dweud bod y rhain yn benderfyniadau cytbwys iawn. [Torri ar draws.] Felly, ystyriwch hynny. Nid oes ots gen i gymryd ymyriad.