Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 5 Hydref 2021.
Diolch, Jenny. Rwy'n credu mai'r hyn y byddai'r diwydiant clybiau nos yn ei ddweud yw ei bod yn ymwneud â'r amser y mae'n ei gymryd i brosesu pobl. A bu enghreifftiau lle, erbyn i bobl gael eu prosesu i fynd drwodd, yna mae'n ddiwedd y noson. Nid wyf i'n rhywun sy'n mynychu clybiau nos yn aml iawn y dyddiau hyn, ond dyna y mae'r diwydiant yn ei ddweud yn hynny o beth, Jenny, a dyna'r hyn yr ydym ni wedi ei weld o ran y materion yn yr Alban.