Part of the debate – Senedd Cymru am 5:24 pm ar 5 Hydref 2021.
Nid oes gen i unrhyw syniad. Ond yr hyn rwyf i yn ei wybod yw, er mwyn i'r digwyddiad fynd yn ei flaen, roedd yn rhaid i'r bobl a oedd yn dymuno cymryd rhan ynddi gael pàs COVID. Dyna yr wyf i'n ei wybod, a dyna'r pwynt sy'n cael ei wneud yma. Mae'r pwynt hwnnw yn amherthnasol mewn gwirionedd, hyd y gwelaf i.
Felly, gadewch i ni fod yn glir yma: mae hyn yn gymesur, mae'n synhwyrol ac mae'n rhagofal teg, ac rwyf i'n annog pawb i archwilio eu cydwybod yma heddiw, i wneud y peth iawn a chefnogi hyn.