Part of the debate – Senedd Cymru am 5:54 pm ar 5 Hydref 2021.
Mae pwerau codi treth, gan gynnwys y gallu i greu trethi newydd, yn arfau hanfodol i lywodraethau eu defnyddio fel ffordd o godi refeniw i gefnogi gwariant ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ac i ddylanwadu ar newid ymddygiad. Mae Deddf Cymru 2014 wedi datganoli pwerau cyllidol i'r Senedd am y tro cyntaf, gan gynnwys rhoi pwerau trethu i gymryd lle treth dir y dreth stamp, treth tirlenwi, yn ogystal â'r gallu i amrywio cyfraddau treth incwm Cymru. Mae'r pwerau cyllidol ychwanegol hyn yn golygu bod tua 20 y cant o gyllideb Llywodraeth Cymru bellach yn cael ei hariannu o refeniw treth. Mae hyn yn ei dro wedi cynyddu atebolrwydd Llywodraeth Cymru i bobl Cymru—yn amlwg, datblygiad i'w groesawu.
Yr wythnos diwethaf, dywedodd Gweinidog Cymru wrth y pwyllgor ei bod yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau datganoli treth ar dir gwag, ond bod y broses wedi bod yn cymryd llawer o amser ac maen nhw'n rhwystredig, gyda thrafodaethau eisoes wedi cymryd dros ddwy flynedd. Mae'r Gweinidog wedi tynnu sylw at yr heriau gan Drysorlys EM yn gofyn am ragor o wybodaeth yn barhaus ac mae wedi dweud o'r blaen mai Llywodraeth y DU yw'r canolwr terfynol o ran a oes digon o wybodaeth wedi'i darparu i gefnogi cynnig.
Mae'r Gweinidog wedi sôn am fynd ar drywydd datrys anghydfodau annibynnol ynghylch a yw Llywodraeth Cymru wedi darparu'r wybodaeth angenrheidiol ynglŷn â'r dreth ar dir gwag ai peidio, fel y nodir yn Neddf Cymru 2014. Dyma'r ymgais gyntaf i geisio cymhwysedd ar gyfer treth newydd ac, o ganlyniad, mae'n rhesymol disgwyl problemau cychwynnol wrth i'r broses gael ei datrys. Fodd bynnag, mae'n annhebygol mai'r bwriad yn Neddf Cymru oedd y byddai'r broses hon yn cymryd cyhyd, ac yn bwrw amheuaeth ynghylch a yw'r dull ar gyfer datganoli trethi yn addas i'r diben. Fel y bydd aelodau o'r drydedd Senedd yn cofio, rwy'n siŵr, mae ganddo adleisiau anffodus o'r system gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol arteithiol o ddatganoli cymhwysedd deddfwriaethol yn dameidiog, a oedd yn ychwanegu lefel ychwanegol o gymhlethdod a biwrocratiaeth at broses sydd eisoes yn hirfaith. Dydw i ddim yn dychmygu y byddai unrhyw un yn hoffi dychwelyd i'r dyddiau hynny.
Yn y Senedd flaenorol, roedd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys ar y pryd yn amharod i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014. Fodd bynnag, roedd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn bresennol a phan ofynnwyd iddo am y dull ar gyfer datganoli trethi newydd dywedodd
'pe byddai pryder dilys yn cael ei godi ynghylch cyflymder cynnydd neu'r dull o ymgysylltu', byddai'n hapus iawn i drafod y mater gyda'r Trysorlys. Rydym yn croesawu'r dull gweithredu yn fawr, ac yn gobeithio y bydd y Prif Ysgrifennydd newydd yn fwy parod na'i ragflaenydd i fwrw ymlaen â datganoli'r dreth hon gyda'r Gweinidog. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd yn fwy parod i ymgysylltu â ni fel pwyllgor, a chymryd rhan yn y gwaith o graffu ar bwerau sy'n dod o fewn cylch gwaith Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar ddatganoli pwerau treth a materion cyllidol eraill.
Mae'r pwyllgor yn cefnogi'r Gweinidog i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod proses effeithiol ar gyfer datganoli meysydd treth newydd i'r Senedd hon. Yr hyn y mae ar bawb ei eisiau yw proses llyfn a thryloyw, a dim ond os yw'r strwythurau i'w gefnogi yn glir, yn gadarn ac yn gydnerth y gellir cyflawni hynny. Diolch.