Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 5 Hydref 2021.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Hoffwn ddiolch i chi, Gweinidog, am y datganiad, ond rwy'n cwestiynu pam mae'r Llywodraeth wedi defnyddio ei hamser seneddol i gyflwyno dadl ar ddatganoli trethi ymhellach ac i achosi rhaniad arall, mae'n debyg, rhwng Cymru a Llywodraeth y DU. Unwaith eto, mae'n ymddangos ein bod yn sôn am ddatganoli, yn hytrach na sôn am y materion mawr sy'n wynebu pobl Cymru, gan edrych o'r tu allan ar ein hunain, bod ag obsesiwn ynghylch proses, yn hytrach na'r canlyniadau polisi a fydd yn sicrhau newid gwirioneddol i deuluoedd ledled y wlad.
Rydym ar adeg anodd yn adferiad Cymru o'r pandemig, ac rwy'n credu yn gryf y dylai adnoddau Llywodraeth Cymru ganolbwyntio'n llwyr ar gyflawni blaenoriaethau'r bobl: swyddi a chodi gwastad yr economi, y GIG a chynorthwyo pobl ifanc i ddal i fyny â'u haddysg. Fe wnaethoch chi gydnabod heddiw, Gweinidog, fod Llywodraeth y DU—eich bod wedi bod mewn sgyrsiau â nhw. Rwy'n falch eich bod wedi cydnabod hynny. Fel y gwyddom, mae eich adroddiad polisi treth eich hun yn 2021-22, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, yn cydnabod cytundeb, fel y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn awr, yng Nghydbwyllgor y Trysorlys yn 2021 y gellid symud cynigion ar gyfer y dreth ar dir gwag ymlaen i'r cam nesaf. Ac rwy'n gwybod bod Llywodraeth y DU wedi gofyn am fwy o wybodaeth ers hynny ac mae hynny wedi gohirio'r broses hon, ac rwy'n cydnabod eich rhwystredigaeth yn yr oedi hwn heddiw, Gweinidog.
Yr hyn yr wyf i'n ei ddweud mewn ymateb yw ei bod yn gwbl gywir bod pob ochr yn craffu'n llawn ar y cynlluniau hyn er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni eu hamcanion ac nad ydyn nhw'n cael effaith negyddol ar farchnad fewnol y DU yn ogystal â'r sector adeiladu tai ac adeiladu ehangach. I ddefnyddio cyfatebiaeth adeiladu tŷ, Llywydd, ni fyddech yn symud i gartref newydd heb wirio ei fod wedi'i adeiladu'n briodol yn gyntaf a bod y strwythur yn ddiogel; rydych yn gofyn i syrfëwr chwilio am broblemau, yn gofyn i syrfëwr sicrhau bod y gosodiadau a'r ffitiadau fel y dylen nhw fod. Dyma y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud, a dylid croesawu'r haenau ychwanegol o graffu ac ni ddylid eu hystyried yn rhwystr. Dyma'r peth, Gweinidog: rydych yn gofyn i Senedd Cymru gefnogi datganoli treth ar dir gwag yn y pen draw heb ddweud beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd. Aelodau, mae'r Gweinidog yn ceisio gwerthu tŷ i ni heb ganiatáu i ni edrych ar y cynlluniau yn gyntaf.
Felly, Gweinidog, sut olwg fyddai ar dreth ar dir gwag yng Nghymru, ac a ydych chi'n gwybod pa effaith y byddai hyn yn ei chael ar adeiladwyr tai a'r diwydiant adeiladu ehangach? Llywydd, rwy'n deall yn fras yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn anelu at ei gyflawni drwy gyflwyno treth dir wag, fodd bynnag, mae'n bwysig cydnabod bod nifer o resymau, fel y mae'r Gweinidog wedi cyfeirio, ynghylch pam y gallai datblygiadau newydd arafu. Canfu ymchwil, o'r holl ddatblygiadau sydd wedi'u gohirio yng Nghymru, fod 13 y cant yn oedi oherwydd materion sy'n benodol i'r safle, fel amodau tir, materion ecolegol a llifogydd ac addasrwydd y tir ei hun, mae 6 y cant wedi'u hoedi oherwydd trafodaethau cynllunio, mae 6 y cant arall wedi'u hoedi oherwydd diffyg cyllid. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod 47 y cant o safleoedd dibreswyl wedi'u hoedi wedi dod i ben oherwydd trafodaethau cynllunio, ac mae'r rhain yn faterion na fyddai'n cael eu datrys gan dreth ar dir gwag.
Bu rhai datblygiadau cadarnhaol i fynd i'r afael â'r materion hyn yng Nghymru, er enghraifft, cyflwynodd Llywodraeth flaenorol Cymru y gronfa safleoedd segur, a byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Gweinidog amlinellu pa mor llwyddiannus fu'r gronfa hon ac a fydd mentrau o'r fath yn cael eu hymestyn. Hefyd, mae prifddinas-ranbarth Caerdydd, yn y cyfamser, wedi cyhoeddi cronfa o £45 miliwn i roi hwb i adeiladu tai yn yr ardal ar ôl iddi ganfod bod 55 y cant o safleoedd wedi'u gohirio yn cael eu hoedi gan bethau fel cost adfer a chael gwared ar lygryddion o'r tir. Mae ystod eang o faterion y mae angen mynd i'r afael â nhw yma, Gweinidog, ac felly byddwn yn croesawu mwy o fanylion am sut yr ydych yn cydweithio ag adeiladwyr tai i'w helpu i oresgyn heriau a brofwyd yn ystod y broses ddatblygu, yn hytrach na'u llesteirio ymhellach drwy osod treth newydd ar ddatblygu. Hefyd, sut mae Llywodraeth Cymru yn diwygio'r broses gynllunio fel ei bod yn fwy hyblyg ac ymatebol i anghenion lleol?
Ac yn olaf, gan droi at thema gyffredinol y ddadl heddiw, datganoli trethi, hoffwn ailddatgan safbwynt polisi maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig sef dim trethi newydd. Rwy'n credu bod gan Lywodraeth Cymru eisoes y pwerau i godi'r gwastad ledled y wlad ac i fynd i'r afael â materion hirsefydlog yng Nghymru o'r diwedd. Ac eto, o ran cyflawni, yn aml nid yw Llywodraethau Llafur olynol yng Nghymru wedi cael fawr ddim i'w ddangos am eu hymdrechion. Mae cynigion ar gyfer treth ar dir gwag yn anwybyddu'r ffaith bod gan Lywodraeth Cymru lawer o'r dulliau sydd eu hangen eisoes i ddarparu'r tai sydd eu hangen ar deuluoedd Cymru. Gweinidog, pam ddylai pobl Cymru gredu mai Llywodraeth yw hon a fydd yn un sy'n gweithredu ac nid yn un o ddiffyg gweithredu? Nid wyf yn argyhoeddedig o hyd ynghylch yr angen am dreth ar dir gwag yng Nghymru, yn enwedig o ystyried yr ystod eang o faterion sy'n llesteirio adeiladu tai na fyddai treth ar dir gwag yn ei datrys. Gyda hyn mewn golwg, Llywydd, rwy'n gofyn i'r Aelodau wrthod cynnig y Llywodraeth a chefnogi ein gwelliant ni. Diolch yn fawr.