Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 5 Hydref 2021.
Mae methiant y protocol presennol yn amlwg i bawb ei weld. Mae wedi'i gymharu nifer o weithiau, on'd yw e, â'r hen Orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol, a oedd yn bla ar y Senedd yn ôl ar ddiwedd y 2000au. Fe'u disodlwyd yn gyflym iawn oherwydd pryderon ynghylch cymhlethdod y trafodaethau sy'n gysylltiedig â'r rheini, a dylid ymdrin â'r trefniant hwn hefyd mewn ffordd debyg. Mae'r protocolau wedi methu ar y rhwystr cyntaf, yn fy marn i. Dyma'r tro cyntaf i'r rhain gael eu profi, a dangoswyd eu bod yn ddiffygiol a'u bod yn methu. Ac, a dweud y gwir, mae'r Trysorlys yn ceisio mynd yn rhy ddwfn i faterion gweithredol yn hytrach na'r egwyddorion lefel uwch o ble y dylai'r pwerau hyn fod. Wrth gwrs, maen nhw'n fwriadol yn gwneud y broses yn ddiangen o gymhleth ac yn rhy hir, oherwydd rydym ni i gyd yn gwybod beth yw barn y Llywodraeth bresennol hon yn San Steffan am ddatganoli unrhyw bwerau neu gyfrifoldebau pellach i Gymru.
Yn ystod fy nghyfnod yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn y Senedd ddiwethaf, gwelais sut yr aeth Llywodraeth Cymru i drafferthion sylweddol i nodi'r rhesymeg dros y dreth ar dir gwag, ond mae ond yn achos arall o Gymru yn cyflawni ei rhan hi o'r fargen a San Steffan yn methu â chyflawni eu un nhw. Ac mae'r Gweinidog yn gywir; nid yw'r broses hon yn addas i'r diben, a chraidd y broblem, wrth gwrs, yw mai Llywodraeth y DU yw canolwr terfynol ei phenderfyniadau ei hun. Rhoddodd yr Athro Gerry Holtham dystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid yn y Senedd ddiwethaf, a dywedodd
'mae'r barnwr a'r rheithgor a'r tystion i gyd yn un person, ac felly mae ychydig yn aneglur sut i fwrw ymlaen. Os yw Llywodraeth Prydain yn dweud "na", beth ydych chi'n ei wneud bryd hynny, hyd yn oed os yw eich cais yn gwbl resymol? Felly, rwy'n credu ei fod yn rhywbeth, fel llawer o bethau yng nghyfansoddiad Prydain, a fyddai'n elwa ar ychydig mwy o eglurder ac efallai ychydig mwy o godeiddio'.
Mae'r Gweinidog wedi dweud bod achos dros ryw fath o asesiad trydydd parti o'r wybodaeth, rhyw fath o farn annibynnol a goruchwyliaeth ohono. Wel, os ydym ni eisiau cadw at y protocol hwn, yna mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni fynnu arno, oherwydd mae'r cydbwysedd o blaid Llywodraeth y DU fel y mae pethau. Nawr, mae ychydig fel fy groser lleol yn dweud wrthyf na wnaiff e werthu wyau i mi oni bai fy mod yn dweud wrtho a ydw i'n mynd i'w berwi, eu sgramblo neu'n eu potsio. Mae'n eithaf rhyfedd, on'd yw e, mewn gwirionedd?
Yn y bôn, mae hwn yn fater o gymhwysedd, nid yn fater polisi. Gwelsom yn y Senedd ddiwethaf na wnaeth Prif Ysgrifennydd y Trysorlys ymgysylltu â'r Pwyllgor Cyllid, gan wrthod ymddangos o'i flaen ac rwy'n gwybod bod y teimladau hynny'n dal yno. Y gwir yw, nid oes gan Lywodraeth San Steffan unrhyw fwriad o gwbl o ddatganoli unrhyw bwerau eraill yn y maes hwn nac unrhyw faes arall i Gymru. Yn wir, mae bwriad Llywodraeth y DU yn eithaf clir, on'd yw e? Maen nhw'n cymryd popeth yn ôl drwy ddeddfwriaeth, Deddf y farchnad fewnol, rydym wedi cael cyfeiriadau at y llu o memoranda cydsyniad deddfwriaethol sydd bellach yn dod ger ein bron ar gyfradd ddigynsail. Mae eironi yma, wrth gwrs: Llafur sy'n cyflwyno'r cynnig hwn, pan wrth gwrs y Gweinidog Llafur, Mark Drakeford, y Gweinidog cyllid ar y pryd, a gytunodd ar y protocol hwn gyda Llywodraeth y DU. Felly, gobeithio nawr eich bod yn sylweddoli nad yw San Steffan eisiau i'r protocol hwn weithio. Mae'n llanast; mae'n ddull, nid i hwyluso cynnydd, ond i rwystro cynnydd, ac wrth gwrs mae'n gweithio. Felly, gorau po gyntaf y cawn ein rhyddhau o gefynnau San Steffan sy'n dal Cymru yn ôl.