10. Dadl Plaid Cymru: Tâl gweithwyr gofal iechyd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 6 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:31, 6 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rydym wedi diolch iddynt; rydym wedi eu cymeradwyo; rydym wedi dod i'w gwerthfawrogi yn fwy nag erioed efallai dros y 18 mis diwethaf. Ond ar ôl aberthu cymaint, mae gweithwyr iechyd a gofal y GIG ledled Cymru yn haeddu cael eu gwobrwyo’n iawn ac yn deg drwy eu cyflog. Y peth lleiaf y credwn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yw sefyll ochr yn ochr â gweithwyr gofal iechyd yng Nghymru ac ymrwymo i godiad uwch na'r hyn a gynigiwyd gan gorff adolygu cyflogau'r GIG, nad yw, wrth gwrs, yn cadw i fyny â chwyddiant hyd yn oed. Dyna pam ein bod yn cynnal y ddadl hon heddiw.

Yr hyn a wnaeth profiadau'r pandemig wrth gwrs oedd atgyfnerthu'r hyn a wyddem eisoes am y GIG a'r gweithlu iechyd a gofal—gweithlu a oedd yn dioddef oherwydd prinder staff a morâl isel, a oedd yn gweithredu mewn amgylchedd heb ddigon o fuddsoddiad ac adnoddau. Nawr, ychwanegwch doriad cyflog mewn termau real at hynny, ac nid oes unrhyw ryfedd fod cymaint o weithwyr iechyd a gofal wedi pleidleisio drwy eu hundebau a’u cyrff cynrychioliadol i fynegi eu dicter ynglŷn â'r hyn a roddwyd iddynt.

Ers pa bryd y mae Llywodraeth Cymru yn efelychu'r hyn a welsom gan Lywodraeth y DU, a gynigodd, wrth gwrs, yn gyntaf oll, y cynnig gwarthus hwnnw o 1 y cant, cyn ei gynyddu wedyn i 3 y cant? Credwn y dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy na hynny. 'Nid yw arian yn tyfu ar goed', meddai'r Prif Weinidog. Mae'n llygad ei le, wrth gwrs, ond credaf y byddai methu buddsoddi, cefnogi, denu a chadw staff—y staff gorau, y mae eu hangen arnom—mewn iechyd a gofal yn creu perygl o ddinistrio unrhyw obaith o dwf, o forâl mewn iechyd a gofal, ac o feithrin y staff y dylem fod yn eu trysori.

Mewn arolwg diweddar, nododd aelodau o Gonffederasiwn GIG Cymru mai recriwtio a chadw'r gweithlu yw un o'r prif heriau sy'n wynebu'r GIG yng Nghymru. Er mwyn sicrhau bod gyrfaoedd yn y GIG yn parhau i fod yn gynnig deniadol, er mwyn sicrhau bod y gweithlu'n parhau i fod yn awyddus i ddarparu gofal o fewn y GIG, a gallu fforddio gwneud hynny, mae angen i'r gweithlu wybod eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac mae cyflog teg yn ganolog i hynny.

Yn ystod y pandemig, darparodd y gweithlu nyrsio yng Nghymru ofal clinigol cymhleth bob dydd—gan ddangos arweinyddiaeth; gan roi cymorth tosturiol i gydweithwyr, i gleifion a'u teuluoedd. Mae'n wir fod gweithwyr gofal iechyd bob amser wedi darparu'r lefel honno o ofal ac ymroddiad 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn. Ond ni allwn gymryd hynny'n ganiataol. Mae angen inni gydnabod bod prinder cronig o staff yng ngweithlu Cymru. Mae'n methu denu digon o unigolion i'r proffesiynau gofal iechyd; yn methu annog staff gofal iechyd i aros. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r prinder presennol yn y gweithlu a sicrhau bod y proffesiynau gofal iechyd yn opsiwn gyrfa deniadol—yn un sy'n talu'n dda ac wedi'i gefnogi'n ystyrlon. Mae cyflog teg yn ganolog i hynny.

Mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru wedi arwain y frwydr i sicrhau bod nyrsys yng Nghymru'n cael cyflog sy'n cydnabod eu cyfraniad i gymdeithas, nid i'r GIG yn unig. Drwy gydol y pandemig, mae pob un ohonom wedi bod yn dyst i nyrsio ar ei fwyaf trawiadol—hynod drawiadol—ac wedi gweld, yn gwbl gywir, ei fod yn broffesiwn medrus iawn, sy'n haeddu cyflog teg, ac mae arnom ddyled enfawr i'r proffesiwn nyrsio, fel i weithwyr eraill ym mhob rhan o'r system iechyd a gofal. Ond erbyn hyn, maent yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi, a phwy all eu beio?

Mae undebau a chyrff cynrychioliadol wedi cynnal ymgynghoriadau cyflog. Canfu ymgynghoriad cyflog gan Unsain Cymru fod 87 y cant o weithwyr gofal iechyd wedi pleidleisio i wrthwynebu'r cynnig; mae aelodau'r GIG o undeb Unite Cymru wedi pleidleisio i wrthod eu codiad cyflog o 3 y cant; dywedodd 93.9 y cant o aelodau Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru a bleidleisiodd eu bod yn credu bod y dyfarniad cyflog yn annerbyniol, gyda 6.1 y cant yn unig yn dweud ei fod yn dderbyniol. Y prynhawn yma, mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi penderfynu cynnal pleidlais ddangosol ar weithredu diwydiannol yn Lloegr, gyda disgwyl i benderfyniad ar gyfer Cymru gael ei gyhoeddi cyn bo hir.

Rydym yn clywed bod y Llywodraeth mewn trafodaethau gyda’r undebau, ac rwy'n gobeithio y bydd yr undebau’n llwyddiannus yn y trafodaethau hynny er lles y gweithwyr, er lles eu haelodau. Ac efallai y gall y Gweinidog gadarnhau heddiw fod y trafodaethau hynny'n cynnwys codiad cyflog ystyrlon—fod y posibilrwydd o godiad cyflog ystyrlon ar y bwrdd. Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol a'i aelodau wedi mynegi cryn rwystredigaeth ynghylch awgrymiadau eu bod rywsut wedi bod yn tynnu allan o drafodaethau gyda'r Llywodraeth; y Llywodraeth sydd wedi bod yn dweud, 'Nid ydych i drafod codiad cyflog ystyrlon'. Deallaf y bydd cyfarfod yn cael ei gynnal mor gynnar ag yfory, o bosibl, ac unwaith eto, efallai y gall y Gweinidog gadarnhau bod codiad cyflog ystyrlon ar y bwrdd.

Mae mesurau eraill a ystyrir wrth edrych ar dâl ac amodau, mesurau fel mwy o wyliau blynyddol a thâl gwyliau, i'w croesawu wrth gwrs, ond does bosibl na all y Llywodraeth dderbyn, yn y pen draw, er mwyn dangos diolch a gwerthfawrogiad a chydnabyddiaeth o'r gwaith a wnaed gan ein gweithwyr iechyd a gofal, fod yn rhaid i hynny gynnwys codiad cyflog mewn termau real yn awr. Mae'n bryd gwobrwyo ein gweithwyr iechyd a gofal â chytundeb cyflog teg newydd.