Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 6 Hydref 2021.
Dwi'n dod i ben rŵan. Menywod, pobl ddu, pobl Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig eraill, sef y rhelyw sydd yn gwneud i fyny y gweithlu nyrsio. Dyma'r un garfan o bobl sydd ar waelod pob tabl anghyfiawnder a thegwch, ac, unwaith eto, dyma'r bobl sy'n dioddef oherwydd y polisi yma i fethu â'u talu nhw'n iawn. Dyma'r bobl sy'n cynnal ein gwasanaethau iechyd ni—hebddyn nhw byddai'r gwasanaeth yn dymchwel. Mae'n rhaid inni ddangos ein diolch nid trwy glapio, ond drwy roi tâl teg iddyn nhw. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.