10. Dadl Plaid Cymru: Tâl gweithwyr gofal iechyd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 6 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:02, 6 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich holl gyfraniadau, gan ddechrau gyda Russell George, a agorodd mewn ffordd bwyllog, drwy dalu teyrnged i'n gweithwyr iechyd. Ond nid yw hyn yn ymwneud â dangos ymrwymiad, geiriau caredig am y gweithlu; mae'n ymwneud â'u talu'n briodol. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r Gweinidog iechyd pan feirniadodd Lywodraeth y DU am ei gweithredoedd mewn perthynas â'i hamharodrwydd i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus drwy'r setliad i Gymru. A dweud y gwir, roedd cyfraniad Darren Millar yn un y gallai bachgen ysgol fod wedi'i wneud pan awgrymodd, rywsut, fod arian ychwanegol yn dod i Gymru drwy fformiwla Barnett ar gael i'w wario. Onid yw wedi clywed am anghenion—anghenion yng Nghymru sydd wedi'u dyfnhau gan weithredoedd ei Lywodraeth Geidwadol ef?