Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 6 Hydref 2021.
Rwy'n dod at y diwedd.
A phan oeddem yn clapio, fel y clywsom yn gynharach, rhoddwyd gobaith iddynt y byddai'r Llywodraethau, o'r diwedd, yn rhoi cyflog teg iddynt i gydnabod y tasgau heriol y maent yn eu cyflawni bob dydd. Ond yn anffodus, mae hynny wedi troi’n siom. Iddynt hwy, mae'r clapio byddarol ar garreg ein drysau wedi dod yn adlais pell wrth i'r anobaith a'r dadrithiad lifo'n ôl, gan nad oedd y clapio byth yn mynd i dalu eu biliau a'u morgais ac am y bwyd ar y bwrdd.