11. Dadl Plaid Cymru: Pwysau Gaeaf y GIG

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 6 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:05, 6 Hydref 2021

Mae hon yn ddadl sydd wedi cael ei hysgogi gan dreigl amser, treigl amser efo problemau yn dwysáu o fewn ein gwasanaethau iechyd a gofal ni. Y gaeaf yn nesáu, yn wir y teimlad bod pwysau'r gaeaf yma yn barod, ac eto ein bod ni heb weld cynllun gan y Llywodraeth ar gyfer y gaeaf eleni. Fe lwyddon nhw i'w gyhoeddi fo yn amserol iawn erbyn canol Medi y llynedd a hynny wedi'r misoedd hynod, hynod heriol yna adeg y pandemig. Y gwir amdani ydy bod cleifion angen yr hyder bod cynllun mewn lle a bod staff angen gwybod bod y camau mewn lle i o leiaf drio tynnu'r pwysau oddi arnyn nhw dros y gaeaf. Does dim ots faint o weithiau rydyn ni'n talu teyrnged i staff, rydyn ni'n dweud y geiriau unwaith eto: a hynny am eu hymroddiad a'u haberth, a'u gwaith drwy'r cyfnod diweddar, dydy geiriau ddim yn gwneud y tro, rywsut.

Dwi'n gwybod mai cefnogaeth mae staff yn chwilio amdano fo. Ers i ni gyflwyno'r cynnig yma, dwi yn falch bod y Llywodraeth wedi dweud bod y cynllun ar ei ffordd. Byddan nhw'n cyhoeddi cynllun y gaeaf ar 18 Hydref. Mi fyddwn ni'n disgwyl bron i bythefnos arall, ac mae yna, dwi'n gwybod, wir benbleth a siom ei bod hi wedi cymryd cyhyd, ond beth allwn ni wneud rŵan, wrth gwrs, efo pythefnos ar ôl, ydy trio dylanwadu ar y cynllun hwnnw, a beth rydyn ni eisiau ei wneud ydy amlinellu rhai o'r meysydd yna y mae rhanddeiliaid wedi dweud wrthym ni y maen nhw am eu gweld yn flaenoriaethau. Rydym ni wedi crynhoi'r mewnbwn hwnnw gan wahanol fudiadau a sefydliadau ar draws iechyd a gofal mewn i bump o feysydd rydyn ni'n credu sydd yn gwbl allweddol i'w cael yn iawn yn y cynllun y gaeaf yma, a dwi'n ddiolchgar iawn i'r rheini sydd wedi cyfrannu at y gwaith yma.

Mae'r rhaglen bum pwynt sydd gennym ni yn dilyn, mewn difrif, siwrnai y claf drwy wasanaethau gofal, achos mae'n rhaid edrych ar y system gyfan. Yn gyntaf, mae eisiau canolbwyntio ar yr ataliol—dwi'n gobeithio y byddai'r Gweinidog yn cytuno efo hynny—a hefyd arwyddo pobl i'r llefydd iawn i dderbyn gofal. Mae pethau mor syml â rhaglenni grutio palmentydd yn gallu bod yn werthfawr o ran atal damweiniau, hyd yn oed; mae sicrhau bod pobl yn gynnes yn eu cartrefi yn bwysig er mwyn atal llawer o broblemau iechyd. Ac, wrth gwrs, pan fydd pobl yn mynd yn sâl, fel sydd yn anochel i lawer, mae eisiau gwneud yn siŵr bod y negeseuon ar sut i gael mynediad i wasanaethau yn hollol glir, yn annog pobl i beidio â galw ambiwlans neu fynd i uned achos brys oni bai bod gwir angen gwneud hynny, er enghraifft, a sicrhau bod y ffyrdd amgen o gael gofal yn cael eu cefnogi'n iawn.

Mae'r ail bennawd gennym ni yn ymwneud â'r mynediad cyntaf un yna i ofal iechyd drwy ofal sylfaenol. Mae'n rhaid dod o hyd i ffyrdd o ryddhau amser staff iechyd i weld cleifion. Ymhlith y camau angenrheidiol yn fanna y mae cyflymu'r symudiadau at gyflwyno technoleg newydd—dadl yr ydym ni wedi'i chael yn y fan hon yn ddiweddar—yn cynnwys e-ragnodi, wrth gwrs. Mi all hyd yn oed mesurau fel dod â rhagor o staff, yn cynnwys meddygon teulu, yn ôl o ymddeoliad dros gyfnod y gaeaf fod yn rhywbeth y gellid gwneud gwaith brys arno fo. Ac mae sicrhau hefyd, dwi'n meddwl, mynediad i bobl hŷn at ofal sylfaenol yn allweddol, a dwi'n cyfeirio'r Gweinidog at adroddiad newydd gan Sefydliad Bevan mewn cydweithrediad efo Cynghrair Henoed Cymru, 'Mynediad pobl hŷn i wasanaethau meddyg teulu'. Mae'n ddogfen ymchwil bwysig iawn, dwi'n credu.

Yn drydydd, cryfhau gwaith diagnostig a chyfeirio. Mae rhaid gweld parhad, er enghraifft, gwasanaethau sgrinio drwy'r gaeaf. Mae yna risg go iawn y gall cyfraddau goroesi canser lithro'n ôl am y tro cyntaf ers degawdau, ac mae'r gaeaf heb os yn hynny o beth yn creu sialensiau ychwanegol. Mae'n rhaid sicrhau bod gwasanaethau canser yn cael eu gwarchod y gaeaf yma, bod cleifion yn derbyn diagnosis a thriniaeth brydlon, ac wrth gwrs mae angen rhoi hyn yn y cyd-destun ehangach mwy hirdymor, yr angen am gynllun canser cenedlaethol. Mae materion y gweithlu yn gyffredinol yn faterion mwy hirdymor hefyd, ond mae eisiau rhywsut gallu blaenoriaethu'r elfen yna o gryfhau gweithlu sydd angen sylw rŵan, yn syth, y gaeaf yma.

Y bedwaredd thema, yr her o gynyddu capasiti: dwi'n edrych ymlaen i glywed datganiad y Llywodraeth wythnos i ddydd Llun, a dwi'n gobeithio y bydd ymrwymiad i greu hybs COVID-lite cadarn yn rhan o hynny.

Ac, yn olaf, mae trefniadau'r gaeaf yma o ran sicrhau llif cleifion drwy'r system iechyd ac ymlaen i ofal cymdeithasol yn bwysicach nag erioed. Mi glywn ni fwy am hynny gan fy nghyd-Aelod i yn y man. Rydyn ni wedi clywed am brofiadau pobl efo'r gwasanaeth ambiwlans, er enghraifft. Mewn un llythyr y cefais i yr wythnos yma, roedd rhywun wedi aros bron 24 awr am ambiwlans. Llif cleifion drwy'r system ydy'r broblem yn y fan honno. Rydyn ni i gyd wedi clywed profiadau tebyg.

Does yna ddim cuddio'r her o'n blaenau ni y gaeaf yma. Mi fydd angen adnoddau sylweddol, ond mi fydd angen arloesedd syniadau hefyd. Felly, dwi'n edrych ymlaen at glywed y cyfraniadau y prynhawn yma.