11. Dadl Plaid Cymru: Pwysau Gaeaf y GIG

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 6 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 5:17, 6 Hydref 2021

Mae pobl hŷn yn rhan fawr a phwysig o'm portffolio i ar gyfer Plaid Cymru. Yn ystod yr wythnos diwethaf, ces i gyfle i wneud webinar gyda'r comisiynydd pobl hŷn. Roedd yn sesiwn ar-lein a lansiodd adroddiad cyflwr y genedl gan y comisiynydd. Un o'r prif bwyntiau oedd yn cael ei wneud yn ystod y webinar oedd y dirywiad sylweddol yn iechyd corfforol a meddyliol pobl hŷn oherwydd y pandemig. Canfu'r adroddiad hefyd bod pobl hŷn wedi ei chael hi'n anodd cael gafael ar wasanaethau yn y gymuned, yn enwedig gwasanaethau iechyd a gofal, dros y 18 mis diwethaf. 

Roedd un ystadegyn yn yr adroddiad yn amlwg iawn i mi, sef bod llai na chwarter o bobl hŷn yn ei chael hi'n hawdd cael gafael ar wasanaethau iechyd ar-lein. O ystyried ein bod ni'n byw fwyfwy mewn oes ddigidol gyda llawer o wasanaethau a oedd unwaith yn wasanaethau wyneb yn wyneb yn mynd ar-lein, mae hyn yn golygu bod pobl hŷn yn cael eu hamddifadu fwyfwy a'u gwthio i ymylon cymdeithas. Dydyn ni'n methu â gadael i hyn barhau, a hoffwn glywed sut mae'r Llywodraeth hon yn bwriadu mynd i'r afael â'r broblem gynyddol yma.