Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 6 Hydref 2021.
Bydd y blaenoriaethau hyn yn cael eu cefnogi gan ein buddsoddiad o £140 miliwn ar gyfer adfer a £48 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol. Hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch o galon i'r staff iechyd a gofal cymdeithasol ym mhob cwr o Gymru. Maen nhw wedi gweithio'n ddiflino, gydag ymroddiad a thosturi, i ddarparu gwasanaethau drwy gydol y pandemig. Mae diogelu iechyd a lles ein staff yn un o'n prif flaenoriaethau ni y gaeaf hwn. Dwi'n edrych ymlaen at roi gwybodaeth fanylach pan fyddwn ni'n cyhoeddi ein cynllun gaeaf ni cyn hir.