Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 6 Hydref 2021.
Diolch i fy nghyd-Aelod ar ochr arall y Siambr, Mr Rowlands, am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn, ac rwy'n cytuno hefyd â fy nghyd-Aelod, Carolyn Thomas, oherwydd mae'n gwestiwn pwysig. Mae'n bwysig fod metro gogledd Cymru yn darparu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, a dyma'r rhwydwaith trafnidiaeth y mae gogledd Cymru yn ei haeddu, fel y cytuna'r Gweinidog.
I drigolion Alun a Glannau Dyfrdwy, mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod coridor sir y Fflint yn gweithredu fel asgwrn cefn i fetro gogledd Cymru, ond mae hefyd yn ymwneud â chreu canolfannau trafnidiaeth allweddol i gyflawni system aml-ddull a chwbl integredig. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod creu coridor sir y Fflint yn hanfodol i sicrhau y bydd trigolion fy nghymuned, Alun a Glannau Dyfrdwy, yn elwa o fetro gogledd Cymru, sy'n brosiect pwysig iawn?