Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 6 Hydref 2021.
Diolch am eich cwestiwn. Mae ein strategaeth ar gyfer annog trafnidiaeth fwy gwyrdd wedi'i nodi'n glir yn 'Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021', sy'n ailadrodd ein hymrwymiad i gyflawni mwy o deithio llesol, mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a cherbydau allyriadau isel, a chreu cysylltiadau agosach rhwng cynlluniau defnydd tir a thrafnidiaeth yn unol â'r cynllun aer glân i Gymru.