Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 6 Hydref 2021.
Diolch am eich diweddariadau ar gynnydd metro gogledd Cymru, Ddirprwy Weinidog. Ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau o bob rhan o'r Siambr yn falch o weld y gwaith ar y prosiect hwn yn cyflymu, a'r buddion y gallai eu darparu i bobl gogledd Cymru. Cynigiwyd y cynlluniau hyn gyntaf yn 2016, i'w cyflawni oddeutu 2035—felly amserlen o bron i 20 mlynedd ar gyfer cyflawni metro gogledd Cymru. Nid wyf yn siŵr a yw hynny'n dderbyniol mwyach, yn sicr, a ninnau mewn argyfwng hinsawdd ac yn ceisio annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Felly, hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog beth y bydd yn ei wneud i gyflymu'r rhaglen waith ac i sicrhau ei bod yn ehangu yng ngogledd Cymru.