Gwrthbwyso Carbon

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 6 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 2:10, 6 Hydref 2021

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Mae'n wir i ddweud bod cefnogaeth gyffredinol i amcan Llywodraeth Cymru i weld Cymru yn dod yn wlad garbon niwtral erbyn 2050, ond mae'n amlwg fod yna broblemau yn y farchnad garbon ar hyn o bryd, yn arbennig fel mae hyn yn effeithio ar ein tir amaethyddol. Mewn cyfres o atebion i gwestiynau ysgrifenedig wrthyf i, mae'r Llywodraeth wedi cadarnhau erbyn hyn fod arian cyhoeddus drwy gynllun Glastir yn mynd i gwmnïau y tu allan i Gymru er mwyn plannu coed. Mae ffermydd cyfan ar draws Cymru yn cael eu prynu at y diben hwn, gyda chwmnïau rhyngwladol yn gwerthu'r carbon ar y farchnad ryngwladol. Yn anffodus, pan fydd darn o dir fferm yn cael ei werthu fel hyn, nid yw'r tir yma ar gael bellach i ffermwyr Cymru ar gyfer gwrthbwyso carbon, a'r un mor bwysig, fydd e ddim ar gael chwaith i helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd yr amcan o fod yn net sero. Felly, beth yw'r ateb i'r broblem? Wel, mae'n bosib newid y system ariannu neu ddefnyddio'r system gynllunio. Felly, Weinidog, ydy Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod problem, ac ydych chi'n barod i gymryd camau drwy newid y system ariannu a'r system gynllunio i fynd i'r afael â hyn? Diolch yn fawr.