Band Eang Cyflym Iawn

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 6 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 2:05, 6 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gysylltedd, ond rydym yn parhau i gamu i mewn i ddarparu cysylltedd. Mae 7,508 o adeiladau bellach wedi cael mynediad ffeibr llawn yng ngogledd Cymru o dan gynllun cyflwyno ffeibr llawn gwerth £56 miliwn Llywodraeth Cymru. Rydym yn parhau i ddarparu atebion cysylltedd drwy ein cronfa band eang lleol a'n cynllun mynediad band eang.