Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 6 Hydref 2021.
Ar hyn o bryd, caiff Cwm Cynon ei wasanaethu gan gynllun trafnidiaeth gymunedol a weithredir gan Accessible Caring Transport. Mae cyngor Rhondda Cynon Taf yn darparu cymorth ariannol ar gyfer y gwasanaeth hwn, gan ddefnyddio'r grant cynnal gwasanaethau bysiau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a'u harian eu hunain.