Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 6 Hydref 2021.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Gwn fod llawer o bobl yn yr ardal leol yn gyffrous ynghylch y posibilrwydd o wneud yr enwebiad hwn, a fydd yn cydnabod harddwch a threftadaeth naturiol unigryw'r parc. Bydd yn rhoi hwb i reoli twristiaeth ac yn helpu i greu swyddi cynaliadwy. Yn 2000, cyflwynodd Llywodraeth Lafur yr Alban Ddeddf Parciau Cenedlaethol (Yr Alban) a oedd ond yn 41 tudalen o hyd, i fod yn weithdrefn symlach ar gyfer enwebu dau barc cenedlaethol yn yr Alban, y Cairngorms a Loch Lomond, a golygodd hynny mai pedair blynedd a gymerodd. Digwyddodd ymgynghoriad cyhoeddus yng nghamau 1 a 2 er hynny, sef un o'r prif gwestiynau sy'n codi, rwy'n credu. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen arfaethedig ar gyfer cyflawni statws y parc cenedlaethol? Rwy'n poeni y gallai gymryd amser hir. Diolch.