Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 6 Hydref 2021.
Fel y gŵyr y Dirprwy Weinidog, daeth y rhaglen Cysylltu Cymunedau i ben yn gynharach na'r disgwyl am nad oedd dull Llywodraeth Cymru o wahodd a dethol y prosiect yn cydymffurfio â gofynion rheoliadau Ewropeaidd. Mae'r rhaglen Cysylltu Cymunedau wedi bod yn achubiaeth i bobl fregus allu defnyddio gwasanaethau hanfodol, ac i gynnal lefel o ryddid na fyddent fel arall yn gallu ei mwynhau. Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn cytuno bod angen sylweddol am gymorth i barhau i dyfu cyfleusterau teithio cymunedol, yn enwedig mewn lleoliadau gwledig a lled-wledig fel Bro Morgannwg a RhCT, lle gall cysylltiadau trafnidiaeth fod yn annibynadwy. A all y Dirprwy Weinidog amlinellu pa drafodaethau y mae wedi'u cael gyda'r gymdeithas dolenni cymunedol er mwyn darparu ffrwd newydd o gyllid ar gyfer teithio cymunedol? Diolch.