Aflonyddu mewn Ysgolion

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 6 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:25, 6 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

A allwch chi roi gwybod i'r Senedd am gamau sydd ar waith i hyrwyddo parch a thosturi yn yr ysgol, o ystyried y rôl hanfodol y mae'r ddau beth yn ei chwarae yn hyrwyddo lles ymhlith dysgwyr, ac yn creu dysgwyr hyderus na chânt eu dallu gan gywilydd yn ddiweddarach mewn bywyd? Ac a wnewch chi ymrwymo hefyd i adrodd i'r Senedd am unrhyw arfarniadau o'r manteision y gallai prydau ysgol am ddim i bawb eu cynnig mewn perthynas â dileu embaras a chywilydd yn yr ysgol?