Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 6 Hydref 2021.
Diolch, Llywydd. Weinidog, cysylltodd mudiad Mercher y Wawr â mi yn ddiweddar, yn mynegi pryder bod siaradwyr Cymraeg yn wynebu heriau o ran cynnal busnes bancio wyneb yn wyneb ac ar-lein trwy gyfrwng y Gymraeg. Pa gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod busnesau ar draws Cymru yn gweithredu'n ddwyieithog? A pha gymorth ychwanegol sy'n cael ei gynnig i'r busnesau hynny sy'n methu â chydymffurfio â'r gofynion hyn?