Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 6 Hydref 2021.
Mae gan y sector addysg rôl sylfaenol yn cefnogi ymateb Llywodraeth Cymru i'r argyfwng hinsawdd. Roeddwn yn trafod hyn mewn cyfarfod ag Aelodau eraill o'r Cabinet ac arweinwyr awdurdodau lleol y bore yma. Dyna pam y mae carbon sero-net yn ystyriaeth allweddol o dan fuddsoddiad y rhaglen ysgolion a cholegau ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a pham y mae cyllid ychwanegol eisoes ar gael i gefnogi prosiectau peilot carbon sero-net mewn ysgolion.