Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 6 Hydref 2021.
Wel, gan adleisio'r pwynt a godwyd yn y drafodaeth yn gynharach, yn sicr, gallwn wneud mwy o gyfraniad na'r hyn a wnawn ar hyn o bryd. Dyna pam ein bod wedi gosod polisi i ni ein hunain o sicrhau ein bod yn symud tuag at ysgolion carbon sero-net, ond mae angen gwneud hynny mewn ffordd y gellir ei chyflawni, ac mae'r cynlluniau peilot a lansiwyd gennym—mae un ym Mro Morgannwg, mae un yn sir y Fflint, mae tair ysgol yn Rhondda Cynon Taf yn cael eu hystyried o dan y trefniadau—yn ein helpu i ddeall beth arall sydd angen inni ei wneud a pha mor gyflym y gallwn symud ar hyd y llwybr i sicrhau bod yr ystâd ysgolion ym mhob rhan o Gymru yn manteisio ar y dechnoleg ddiweddaraf, y dulliau adeiladu diweddaraf, er mwyn cyflawni ei chyfraniad tuag at ddatgarboneiddio'r ystâd gyhoeddus yng Nghymru.