Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 6 Hydref 2021.
Diolch. Rydym i gyd yn cytuno ein bod am weld cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg ym mhob cornel o'r genedl. Yn aml, mae Dinbych-y-Pysgod, sydd yng nghanol fy etholaeth, yn cael ei ystyried yn gymuned draddodiadol Gymraeg ei hiaith, ond mae'r ysgol cyfrwng Cymraeg, Ysgol Hafan y Môr, wedi cael ei disgrifio gan y cynghorydd lleol fel 'bursting at the seams', ac mae Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd hefyd yn orlawn. Gyda'r cynnydd yn y galw gan rieni i'w plant fynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, sut mae'r Gweinidog yn bwriadu cefnogi'r galw cynyddol hwn a sicrhau nad yw cyllid ar gyfer y ddarpariaeth addysg bresennol yn cael ei effeithio?