Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 6 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:39, 6 Hydref 2021

Mi fyddwch chi'n gwerthfawrogi bod yr undebau yn benodol yn gofyn am weithredu brys ar y mater yma, ac yn gobeithio am newyddion i'r perwyl yna gennych chi yn fuan.

O ganlyniad i'r pandemig, rydym ni'n gwybod bod ysgolion, staff a disgyblion wedi bod o dan bwysau anferth. Mae yna adroddiad diweddar gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru sy'n tynnu sylw at sut mae'r pandemig wedi effeithio ar les addysgwyr, yn enwedig ar yr arweinwyr yn yr ysgolion—eu lles nhw'n cael ei effeithio gan lwyth gwaith, mesurau atebolrwydd, y broses arolygu, materion staffio a phersonél, a hefyd, wrth gwrs, ariannu a rheoli cyllidebau. Mae yna faich gwaith aruthrol ar eu hysgwyddau nhw.

Felly, a fedrwch chi amlinellu pa gamau byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau lles arweinwyr ein hysgolion ni, a sut mae'r Llywodraeth yn mynd i fod yn ymateb i'r pwysau sy'n cael ei achosi ar draws ystod o feysydd o ganlyniad i lwyth gwaith arolygiadau a rheoli cyllidebau?