Dal i Fyny ym Maes Addysg

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 6 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:56, 6 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n amlwg yn falch iawn fod gan Lywodraeth Cymru gynllun, ond mae'n bwysig iawn ein bod ni, fel Aelodau o'r Senedd, yn gallu monitro gweithrediad a chynnydd y cynllun hwnnw. A gaf fi ofyn, a fyddwch yn cyhoeddi cerrig milltir allweddol ac yn sicrhau bod adroddiadau rheolaidd ar gael i Aelodau o'r Senedd er mwyn sicrhau ein bod yn gallu mynd i'r afael â'r rhaglen ddal i fyny y mae angen iddi ddigwydd ar gyfer y bobl ifanc a'r plant ledled Cymru sydd wedi eu gadael ar ôl i'r fath raddau gyda'u haddysg yn ystod y pandemig?