Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 6 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative 2:34, 6 Hydref 2021

Diolch. A phan wnaethoch eich datganiad ar 'Cymraeg 2050' cyn toriad yr haf, gofynnais y cwestiwn hwn i chi, ond yn anffodus ni chefais ateb iddo. Dywedoch chi eich bod am annog siaradwyr Cymraeg ifanc i ddychwelyd o brifysgol i helpu i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ein hysgolion. Tynnais sylw at y ffaith bod hyn yn ei wneud yn fwy anodd i recriwtio athrawon o'r tu allan i Gymru, felly yn lleihau'r cymysgedd o ddoniau a chefndiroedd y mae athrawon newydd yn dod â nhw i'n hysgolion. A allwch chi egluro nawr sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod unrhyw un sy'n dymuno dysgu yng Nghymru, ond nad oes ganddo'r sgiliau iaith, yn gallu dod o hyd i swydd fel athro yng Nghymru? Diolch.