Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 6 Hydref 2021.
Mae ein cenhadaeth genedlaethol yn nodi ein hymrwymiad i lwyddiant a llesiant pob dysgwr. Mae addysg heblaw yn yr ysgol yn rhan integredig o'r continwwm addysg. Mae addysg heblaw yn yr ysgol yn ddarpariaeth addysg i blant a phobl ifanc sydd, am ba reswm bynnag, angen cymorth wedi'i deilwra y tu allan i ysgolion prif ffrwd.